Y Borth

cymuned a phentref yng Ngheredigion

Pentref a chymuned yng Ngheredigion yw y Borth. Saif ar arfordir Bae Ceredigion, 9 km i'r gogledd o Aberystwyth. Mae ganddi tua 1,463 o drigolion, 32.4% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2011).

Y Borth
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,399, 1,250, 1,523 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd745.61 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMachynlleth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.4853°N 4.051°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000362 Edit this on Wikidata
Cod OSSN608894 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Am y dref ar Ynys Môn, gweler Porthaethwy

Pentref bach pysgotwyr a morwyr fu'r Borth yn y gorffennol ond mae'r Borth, bellach, yn dref glan môr boblogaidd gyda sawl gwersyll carafanio yn y cylch. I'r dwyrain ceir corsdir eang o'r enw Cors Fochno ar lan aber Afon Dyfi. Ar un adeg gellid croesi gyda fferi bach o'r Ynys Las i'r gogledd o'r pentref i Aberdyfi dros Afon Dyfi.

Mae gan y Borth orsaf reilffordd ar Reilffordd y Cambrian.

Coedwig y Borth

golygu

Ar y traeth rhwng y Borth ac Ynyslas, pan fo'r môr ar drai, gellir gweld boncyffion hen fforest betraidd sy'n profi fod tir yn gorwedd i'r gorllewin yn y gorffennol, cyn iddo gael ei foddi gan y môr ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig.

Yn Ionawr 2014, oherwydd y gwyntoedd cryfion dadorchuddiwyd rhagor o'r bonion coed pan gliriwyd llawer o'r tywod; ymhlith y gwahanol fathau o goed roedd: y binwydden, y wernen, y dderwen a'r fedwen. Gorwedda'r bonion hyn mewn mawn. Dyddiwyd y coed drwy garbon-ddyddio a cheir tystiolaeth eu bod rhwng 4,500 a 6,000 oed.[1] Mae'r bonion yn ymestyn am tua dwy filltir a hanner.[2]

Dyma un rheswm, o bosib, am y chwedl gyfarwydd am Gantre'r Gwaelod, a gysylltir ag ardal Aberdyfi sydd ar yr ochr arall i'r afon, i'r gogledd.

Gweddilion hen goed ar draeth y Borth

Oriel luniau

golygu

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Borth (pob oed) (1,399)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Borth) (443)
 
32.4%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Borth) (565)
 
40.4%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Borth) (246)
 
37.2%
:Y ganran drwy Gymru
 
5%

Trigolion o nod

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan ceredigioncoastalpath.com; Archifwyd 2014-03-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 22 Chwefror 2014.
  2. Gwefan y Guardian; adalwyd 22 Chwefror 2014.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.