Llanwenog

pentref a chymuned yng Ngheredigion

Pentref, plwyf a chymuned yn Nyffryn Teifi yn ne Ceredigion yw Llanwenog. Saif ar yr A475 tua 6 milltir i'r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan ac i'r gogledd-orllewin o Lanybydder.

Llanwenog
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,364, 1,279, 1,391 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,506.33 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.1°N 4.2°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000390 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwenog, ac mae'n cynnwys bedyddfaen nodedig. Cafwyd hyd i garreg yma gydag arysgrif o'r 5g mewn Lladin ac Ogam, yn coffhau Trenacatus fab Maglagnus. Mae'n awr yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Enwyd brîd o ddefaid ar ôl Llanwenog.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Rhuddlan Teifi, Dre-fach, Cwrtnewydd, Alltyblaca a Gors-goch. Roedd poblogaeth yn gymuned yn 2001 yn 1,391.

Enwogion

golygu
  • John Bowen Jones (1829 – 1905), Gweinidog Annibynnol a golygydd cylchgronau Cymraeg

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanwenog (pob oed) (1,364)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanwenog) (751)
 
57%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanwenog) (791)
 
58%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanwenog) (192)
 
33.3%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]