Y Pris
Cyfres ddrama deledu oedd Y Pris (Saesneg: The Price) a gynhyrchwyd gan Fiction Factory ar gyfer S4C. Disgrifiwyd y rhaglen gan ei cynhyrchwyr fel "Y Sopranos ger y môr" ac mae'r gyfres wedi ei gosod yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n dilyn "bywydau clymog grŵp o gangsters sy'n cuddio eu trafodion anghyfreithlon."
| Enghraifft o: | cyfres deledu |
|---|---|
| Crëwr | Tinopolis |
| Gwlad | Cymru |
| Dechreuwyd | 31 Hydref 2007 |
| Daeth i ben | 21 Mai 2009 |
| Genre | cyfres ddrama deledu |
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
| Gwefan | http://www.s4c-ypris.co.uk/ |
| Dynodwyr | |
Cafodd y gyfres ei ysgrifennu gan Tim Price.
Cast a Cymeriadau
golyguLyn Edwards (Cyfres 1-2, prif) - yn cael ei phortreadu gan Matthew Gravelle. Fe yw un o brif gymeriadau'r gyfres ac erbyn yr ail gyfres yn cael ei wneud yn ben y grŵp fwyaf sydd yn delio cyffuriau yng Nghymru gan y frawdoliaeth.
Steve John (Cyfres 1-2, prif) - yn cael ei chwarae gan Rhodri Meilir. Steve yw'r ail-yn-orchymyn. Cyfrinachwr ac yn frawd a fabwysiadwyd i Lyn.
Nicky (Cyfres 2, prif) - yn cael ei chwarae gan Gareth Pierce. Mae Nicky yn gefnder ifanc Lyn, sydd yn dod i lawr o Lanystumdwy i helpu i redeg y busnes teuluol.