Gareth Pierce

actor o Brydain

Actor o Gymro yw Gareth Pierce (ganwyd 19 Chwefror 1981).

Gareth Pierce
Ganwyd19 Chwefror 1981 Edit this on Wikidata
Pwllheli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Yn 2006 cafodd ei enwi fel un o'r 50 dyn sengl mwya cymwys Prydain gan gylchgrawn Company.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Magwyd Gareth ym Mhwllheli, Gwynedd a mynychodd Ysgol Gynradd Cymerau. Roedd ei dad yn gweithio yn y fyddin ac fe symudodd y teulu i Swydd Efrog pan oedd yn 10 oed. Yn 18 oed daeth yn ôl i Gymru i astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd. Yn ddiweddarach symudodd ei rieni nôl i Bwllheli.[2]

Yng Nghymru daeth yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Osian James yng nghyfres teledu S4C, Caerdydd. Mae hefyd wedi chwarae rhan mewn sawl cyfres ddrama arall ar S4C, fel Y Pris, Teledu Eddie, Cowbois ac Injans.

Mae wedi ymddangos ar raglenni teledu Saesneg fel Stella, Hollyoaks ac Ordinary Lies. Yn 2020 cymerodd drosodd ran Todd Grimshaw yn Coronation Street.

Cerddoriaeth

golygu

Mae Gareth yn chwarae drymiau a chanu i'r band Hafaliadau=Equations o Bwllheli.

Gwaith

golygu

Teledu

golygu
Blwyddyn Teitl Cymeriad Cynhyrchiad Nodiadau
2004ChosenShaun KennedyITV Wales
2006-2010CaerdyddOsian JamesS4CCymeriad rheolaidd
2007Cowbois ac InjansConnorS4CCyfres 2 Pennod 2
2009Y PrisNickyS4CCyfres 2
2010Pen TalarRobert EvansS4CPennod 9
2012AlysGarethS4C
2013-2014StellaLenny MackSky 1Cyfres 2-3
2014Cara Fi / Love MeBrian PhelpsS4C/BBC iPlayer
2015Y GwyllAlun PriceS4CCyfres 2 Pennod 1
201535 DiwrnodRegS4CCyfres 2
2016Ordinary LiesKarl SheldonBBC OneCyfres 2
2020Coronation StreetTodd GrimshawITVCymeriad rheolaidd
Blwyddyn Teitl Cymeriad Cynhyrchiad Nodiadau
2020The ArchersGavin MossBBC Radio 4

Cyfeiriadau

golygu
  1. Welsh star makes it on to women's top desire list (en) , North Wales Live, 1 Mai 2006. Cyrchwyd ar 10 Awst 2020.
  2. Pwllheli actor goes from zero to anti-hero (en) , North Wales Live, 26 Mawrth 2009. Cyrchwyd ar 10 Awst 2020.

Dolenni allanol

golygu