Rhyd Talog

pentref yn Sir y Fflint

Pentref bychan gwledig yng nghymuned Treuddyn, Sir y Fflint, Cymru, yw Rhyd Talog ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (amrywiad: Rhydtalog).[1] Fe'i lleolir tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o Lanarmon-yn-Iâl ar yr A5104 tua hanner ffordd rhwng Rhuthun i'r gorllewin a Wrecsam i'r dwyrain.

Rhyd Talog
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.086°N 3.144°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ233549 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUMark Tami (Llafur)
Map

Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Graianrhyd a Rhyd-y-ceirw. Gorwedd bron ar y ffin rhwng Sir y Fflint a Sir Ddinbych: yn hanesyddol, bu'n rhan o Sir Ddinbych o 1536 hyd 1974.

Ffermdy ar gwr Rhyd Talog

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 15 Ionawr 2022
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato