Malbork
Tref yng ngogledd Gwlad Pwyl yw Malbork (Almaeneg: Marienburg, Lladin: Civitas Beatae Virginis). Adeiladwyd y dref o gwmpas caer Ordensburg Marienburg, a sefydlwyd ym 1274 ar lan dde'r Afon Nogat gan y Marchogion Tiwtonaidd. Enwyd y gaer a'r dref ill dwy ar ôl eu nawddsant, y Forwyn Fair. Daeth y gaer yn bencadlys i'r Marchogion Tiwtonaidd. Hi oedd caer Gothig fwyaf Ewrop.
| Math | urban municipality of Poland, Royal city in Polish-Lithuanian Commonwealth, tref |
|---|---|
| Poblogaeth | 37,635 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | Nordhorn, Sölvesborg Municipality, Trakai, Margny-lès-Compiègne |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Malbork |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 17.15 km² |
| Uwch y môr | 6 metr |
| Gerllaw | Afon Vistula |
| Cyfesurynnau | 54.02846°N 19.04435°E |
| Cod post | 82-200 à 82-210 |
Mae'r gaer yn dal i fod yn drawiadol iawn. Rhestrir y gaer a'i hamgueddfa fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Dolen allanol
golygu- (Pwyleg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2021-09-14 yn y Peiriant Wayback