Iaith Geltaidd yn Llydaw yn nheulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw'r Llydaweg (brezhoneg). Mae'r Llydaweg yn tarddu o'r Frythoneg, fel y gwnaeth y Gymraeg a'r Gernyweg hefyd. Tarddodd y Frythoneg ei hun o'r Gelteg. Siaredir Llydaweg yn Llydaw, yng ngogledd-orllewinol gwladwriaeth Ffrainc, sef Llydaw Isel, sy'n cynnwys Finistère, gorllewin Côtes d'Armor a Morbihan. Mae cysylltiad agos rhwng yr iaith â'r hunaniaeth Lydawaidd.

Llydaweg
brezhoneg
Ochr adeilad carreg wrth ymyl nant; mae wal garreg isel yn y blaendir yn cynnwys arwydd sy'n dweud Melin yr Anhrefn yn Llydaweg a Ffrangeg.; Meilh ar Cʼhlegr a Moulin du Chaos
Arwydd dwyieithog yn y Goedwig Uchel yn Llydaw
Ynganiad[bʁeˈzɔ̃ːnɛk], [brəhɔ̃ˈnek]
Yn frodorol iLlydaw (Ffrainc)
ArdalLlydaw Isel
EthnigeddLlydawyr
Siaradwyr brodorol
107,000 yn Llydaw (2024)[1]
16,000 yn Île-de-France[2]
(Mae'r nifer yn cynnwys myfyrwyr mewn addysg ddwyieithog)[3]
Tafodieithoedd
Y sgript Ladin (yr wyddor Lydaweg)
Statws swyddogol
Iaith leiafrifol
gydnabyddedig yn
Rheolir ganOfis Publik ar Brezhoneg (Swyddfa Gyhoeddus ar gyfer yr Iaith Lydaweg)
Codau iaith
ISO 639-1br
ISO 639-2bre
ISO 639-3Variously:
bre  Llydaweg Modern
xbm  Llydaweg Canol
obt  Hen Lydaweg
xbm Llydaweg Canol
 obt Hen Lydaweg
Glottologbret1245  Bretonic
bret1244  KLT Breton
vann1244  Gwenedeg
ELPBreton
Linguasphere[https://web.archive.org/web/20200101010101/http://multitree.org/codes/50-ABB-b (amrywiadau:

50-ABB-ba to -be) 50-ABB-b (amrywiadau:

50-ABB-ba to -be)]
Map yn dangos canran y siaradwyr Llydaweg ym mhob gwlad yn Llydaw, 2018
Canran siaradwyr Llydaweg ym mhob gwlad yn Llydaw, 2018
Mae'r Llydaweg wedi'i dosbarthu fel iaith sydd mewn perygl difrifol gan Atlas o Ieithoedd y Byd mewn Perygl UNESCO[4]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys symbolau ffonetig IPA. Heb gymorth rendro priodol, efallai y byddwch yn gweld marciau cwestiwn, blychau, neu symbolau eraill yn lle nodau Unicode. Am ganllaw cyflwyniadol ar symbolau IPA, gweler Help:IPA.
Kemper yn Penn-ar-Bed /Finistère
Poster ar arwydd uniaith Ffrangeg yn mynnu'r defnydd o'r Lydaweg. Montroulez 2013.
Protest Iaith yn An Oriant
Y Lydaweg yn gyntaf ar arwydd siop, a'r Ffrangeg yn ail.

Cafodd y Llydaweg ei chyflwyno i Lydaw gan ymfudwyr o dde-ddwyrain Prydain o'r 4edd hyd at y 6g. Ychydig sy'n hysbys am gyflwr ieithyddol y rhan honno o wlad Gâl yr adeg honno ond mae'n bur sicr fod tafodiaith Aleg yn cael ei siarad yno. Nid yw'r Llydaweg ei hun yn perthyn i gangen Celteg y Cyfandir ond yn hytrach i'r Frythoneg sydd, gyda'r Oideleg, yn ffurfio'r gangen Geltaidd a elwir yn Gelteg Ynysig. Glosau ar eiriau Lladin mewn llawysgrifau yw'r cofnodion hynaf o'r iaith Lydaweg sydd ar gael heddiw, ynghyd ag enwau personol a lleol yn yr un ffynonellau. Maent yn dyddio o'r 9fed hyd at y 12g. Mae'r testunau cyfan cynharaf yn dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Gelwir iaith y cyfnod hwnnw'n Llydaweg Canol. Testunau crefyddol fel bucheddau seintiau yw'r testunau Llydaweg Canol bron i gyd. Y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi yn y Llydaweg yw'r Catholicon, geiriadur teirieithog a gyhoeddwyd yn Landreger (sef Tréguier yn ffrangeg) yn 1464. Mae Llydaweg Canol yn dangos dylanwad cryf Ffrangeg ar ei ffonoleg, ei gramadeg a'i geirfa.

Orgraff

golygu

Mae datblygiad system orgraffol safonol i'r Llydaweg wedi bod yn anodd. Cam pwysig oedd cyhoeddiad geiriadur Le Gonidec yn 1821.

Am amser roedd nifer o systemau orgraffol yn cyd-fyw. Ond yr un a ddefnyddir fwyaf heddiw, a ddysgir yn yr holl ysgolion, yw'r orgaff Peurunvan (unedig). Yn y ganrif ddiwethaf roedd ei ylynion yn ei alw Zedacheg (yn ôl y llythrennau "zh") achos mae'n sgrifennu Breizh, ers 1941, yn lle Breiz neu Breih.

Llydaweg heddiw

golygu

Yn 1999, roedd tua 304 000 o bobl yn medru Llydaweg yn ôl yr INSEE (Sefydliad gwybodaeth ystadegol ac economaidd Ffrainc), sef un rhan o bump o boblogaeth Llydaw Isel. Roedd cefn gwlad Breizh Izel yn uniaith Lydaweg tan yr Ail Ryfel Byd. Oddi ar y rhyfel ychydig o bobl ifanc a fagwyd yn Llydaweg. Er gwaetha'r ffaith nad oedd mewnlifiad yn digwydd yr adeg honno ymddengys i'r rhan fwyaf o deuluoedd Llydaweg benderfynu fagu eu plant yn uniaith Ffrangeg o tua 1946-1950 ymlaen. Mae nifer y siaradwyr iaith gyntaf ar fin cwympo i lefel isel gyda cholli'r genhedlaeth 70-80 oed dros y degawdau nesaf yma, sef cnewyllyn y siaradwyr iaith gyntaf. Ar hyn o bryd prin bod 2% o blant Llydaw Isel yn medru'r Llydaweg a'r rhan fwyaf ohonynt oherwydd ymdrech ysgolion Llydaweg Diwan.

BlwyddynNifer o siaradwyr Llydaweg% o'r boblogaeth yn siarad Llydaweg
18861,982,30060
19281,158,00038
1952700,00023
1983604,00016
1991250,0006
1997240,0006
1999304,0008
2007206,000
2024 107,000

[5]

Statws

golygu

Does dim statws swyddogol gan yr iaith Lydaweg. Yn ôl cyfansoddiad Ffrainc, Ffrangeg yw unig iaith y Wladwriaeth. Fe feriniadwyd Ffrainc yn hallt yn ddiweddar yn dilyn eu methiant i gadarnhau [[Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol. Er hyn, fe sefydlwyd Ofis ar Brezhoneg (Bwrdd yr Iaith Lydaweg) gan Gyngor Rhanbarth Llydaw yn 1999 er mwyn hyrwyddo a datblygu'r defnydd o'r iaith.

Addysg

golygu

Mwy na 20,280 o blant sydd yn cael eu dysgu mewn ysgolion Diwan, Div Yezh, Dihun ac mae'r ffigwr yn codi gan bymtheg y cant pob blwyddyn. Mae yna gyfundrefn addysg dwyieithog, sef Divyezh (dwyieithog cyhoeddus) a Dihun (dwyieithog preifat).

Darlledu

golygu

Mae radio a theledu cyhoeddus yn darlledu rhai rhaglenni Llydaweg bob dydd. Roedd sianel deledu preifat TV Breizh yn darlledu rhaglenni Llydaweg a Ffrangeg ond peidiwyd gwneud hynny yn 2009. Lansiwyd teledu ar-lein brezhoweb yn 2006. Mae'n darlledu dim ond yn y Llydaweg (gydag isdeitlau Ffrangeg, Llydaweg ac, weithiau Saesneg) ond mae dim ond ar-lein ac nid fel teledu lloeren neu daearol.

Brawddegau Cyffredin

golygu
  • Sut mae – Salud
  • Hwyl fawr – Kenavo, kenô
  • Diolch – Bennozh Doue (sef yn lythrennol "Bendith Duw"; nid oes gwir gair am diolch yn Llydaweg), Trugarez, mersi.
  • Os gwelwch yn dda – Mar plij.
  • Iechyd da! – Yec'hed mat !
  • Nos da! – Noz vat !
  • Sut ydych chi? – Mat an traoù ganeoc'h ?
  • Sut wyt ti? – Mat an traoù ganit ?
  • Pwy dych chi? – Piv oc'h ?
  • ...ydw i – ...on
  • Beth ydy dy enw? – Pe anv out ?/Petra eo da anv ?
  • Fy enw ydy... – ...eo ma anv
  • Dwi ddim – N'on ket
  • Yn – E/en

Mae cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Llydaweg wedi dangos yn rheolaidd o brif awduron Llydaw fel Roparz Hemon, Anjela Duval, Ronan Huon a Per Denez yn ogystal a'r ffordd arall ee Treid Daouhualet gan Kate Roberts ac Eun nozveziad reo gwenn (Noson o Farrug) gan R. G. Berry.[6]

Priod-ddulliau neu idiomau

golygu
  • Siminalioù ar bed all (simneiau y byd arall) – cerrig mawrion mewn cae.
  • Dent Genver (Ysgithredd Ionawr) – Pibonwy.
  • Ne lip ket chadenn ar puñs (dydy e ddim yn llyfu cadwyn y ffynnon) – dydy e ddim yn hoffi dŵr, sef meddwyn yw ef.
  • N'eo ket bet roet un teod dezhi/dezhañ evit lipat ar mogerioù (nid oes ganddo/ganddi dafod i lyfu muriau) – mae e/hi'n siarad yn ddi-baid, pymtheg y dwsin.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Communiqué · Transmission et usage du breton et du gallo : résultats de l'étude sociolinguistique 2024 · Région Bretagne".
  2. Diagnostic de la langue bretonne en Île-de-France. Ofis Publik ar Brezhoneg.
  3. Broudic, Fañch (2009). Parler breton au XXIe siècle : Le nouveau sondage de TMO Régions (yn Ffrangeg). Emgleo Breiz.
  4. Moseley, Christopher; Nicolas, Alexander, gol. (2010). Atlas of the World's Languages in Danger (PDF) (arg. 3rd). Paris: UNESCO. ISBN 978-92-3-104096-2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 July 2022.
  5. Ffynhonnell: tabl a gynhwyswyd yn Hornsby, M. (2008). The incongruence of the Breton linguistic landscape for young speakers of Breton, J. of Multilingual and Multicultural Development, Vol. 29(2), 127-138, a ddyfynnodd Observatoire de la Langue Bretonne (2002) yn dyfynnu Sébillot (1886), Hemon (1930), Gourvil (1952), Centre d’Études d’Opinion (1983), TMO (1991, 1997), INSEE (1999). Daw ffigur 2007 o arolwg 2007 TMO.
  6. "Eun Nozveziad Reo Gwenn". bibliotheque.idbe.bzh (yn Llydaweg). Cyrchwyd 2024-03-24.

Llyfryddiaeth

golygu
Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Llydaweg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
  • F. Gourvil, Langue et littérature bretonnes (Paris, 1952)
  • Kenneth H. Jackson, A Historical Phonology of Breton (Dulyn, 1967)
  • Henry Lewis, Llawlyfr Llydaweg Canol (Caerdydd)

Dolenni allanol

golygu
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Cernyweg ·Cymraeg ·Llydaweg |Gaeleg ·Gwyddeleg ·Manaweg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch am Llydaweg
yn Wiciadur.