J. B. Priestley

llenor Seisnig (1894-1984)

Roedd John Boynton Priestley (13 Medi 189414 Awst 1984) yn nofelydd, dramodydd, sgriptiwr, darlledwr a sylwebydd cymdeithasol o Loegr.[1] Cyhoeddodd 26 nofel, a llawer o ddramâu, gan gynnwys An Inspector Calls (1945).

J. B. Priestley
FfugenwPeter Goldsmith Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Medi 1894 Edit this on Wikidata
Bradford Edit this on Wikidata
Bu farw14 Awst 1984 Edit this on Wikidata
Stratford-upon-Avon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, dramodydd, libretydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, awdur ffuglen wyddonol, awdur plant, bardd Edit this on Wikidata
PriodJacquetta Hawkes, Jane Holland Priestley Edit this on Wikidata
PartnerPeggy Ashcroft Edit this on Wikidata
PlantSylvia Priestley Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Goffa James Tait Black Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://jbpriestley.co.uk Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Priestley ar 13 Medi 1894 yn Bradford, Swydd Efrog yn fab i Jonathon Priestly a oedd yn brifathro.[2][3] Bu farw ei fam Emma pan oedd ef yn ddwy oed, ac ailbriododd ei dad bedair blynedd yn ddiweddarach. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Belle Vue, a gadawodd yr ysgol pan oedd yn 16 oed, cyn mynd i weithio fel clerc iau mewn cwmni gwlân.

Aeth i ymladd yn Y Rhyfel Byd Cyntaf pan oedd yn ugain oed, a chafodd ei anafu'n wael yn 1916.

Yn 1922, mynychodd Neuadd y Drindod, Caergrawnt, ac roedd ef ymhlith y rhai cyntaf i raddio mewn Saesneg fel pwnc.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "J B Priestley". The British Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Chwefror 2021. Cyrchwyd 15 Ebrill 2026.
  2. "Biography". J.B PRIESTLEY (yn Saesneg). 18 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 2026-04-15.
  3. "J. B. Priestley Archive - Special Collections". University of Bradford (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Ebrill 2026.

Dolenni allanol

golygu