Darlledwr
Un yn y cyfryngau torfol yw darlledwr[1] sy'n cyflwyno, adrodd, neu fel arall yn creu a chyhoeddi deunydd a ddarlledir drwy dechnoleg y radio, y teledu, neu'r rhyngrwyd. Mae cyflwynwyr, adroddwyr, sylwebyddion, gohebyddion, a darllenwyr newyddion i gyd yn enghreifftiau o ddarlledwyr. Mae'r term yn disgrifio'r llais neu'r wyneb sy'n amlwg i'r gynulleidfa, yn hytrach nag un sy'n gweithio "yn y cefn" megis sgriptiwr neu gynhyrchydd, ac nid yw'n cwmpasu chwaith actorion. Gall y cynhyrchiad fod yn fyw neu wedi ei recordio, boed yn fwletin newyddion, rhaglen ddogfen, sioe siarad, sioe gêm, neu sylwebaeth chwaraeon. Mae swyddogaethau'r darlledwr yn amrywio'n ôl cyfrwng, ffurf a genre'r cynhyrchiad, ond ei rôl yn y bôn yw rhoi gwybodaeth sy'n hysbysu'r gynulleidfa ac yn tywys y gwrandäwr neu'r gwyliwr drwy hynt y darllediad.
| Enghraifft o: | galwedigaeth |
|---|---|
| Math | media professional |
| Dynodwyr | |
Yn yr oes ddigidol, gellir ystyried podledwyr yn ddarlledwyr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ darlledwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Gorffennaf 2025.