Brodyr Morvan
Roedd y Brodyr Morvan (Llydaweg: Breudeur Morvan, hefyd Patroed Morvan sef 'Bechgyn Morvan'; Ffrangeg: Les Frères Morvan) yn gantorion adnabyddus yn Llydaw. Roedd pedwar bachgen yn y teulu: Yves (1919 - 1984), Henri (1931 - 2025), François (1923 - 2012)[1] Yvon (1934 - 2022)[2] a bu farw Henri, yr olaf o'r brodyr, yn 2025.[3] Roedden nhw'n ffermwyr.
| Enghraifft o: | triawd |
|---|---|
| Gwlad | Llydaw |
| Label recordio | Coop Breizh |
| Genre | cerddoriaeth Llydaw |
| Dynodwyr | |
Fe'u ganed a buont fyw yn Botcol yn Sant-Nigouden yng nghymuned Kallag, (Bro-Gerne Uchel, Aodoù-an-Arvor). Dysgon nhw'r holl alawon ac arddull canu gan eu mam, Augustine ar C’hreñv. Roeddent yn canu alawon Kan ha diskan yn bennaf, ac hefyd yn canu alawon Dañs tro (gavotte). Roedd ganddynt repertoir o oddeutu 80 cân draddodiadol Llydaweg.[4]
Dechreuson nhw ganu'n gyhoeddus fin nos mewn ''noziadù'' (nosweithiau) adeg dyddiau pwysig yn y calendr amaethyddol megis, adeg cynaeafu tatws, cynaeafu grawn. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan ddechreuodd y clybiau Celtaidd drefnu festoù-noz, dechreuodd y brodyr ganu i Kelc’h Keltiek Boulvriag (Cylch Celtaidd Blouvarig), lle chwaraeodd Étienne Rivoallan a Jorj Kadoudal, neu Kelc’h Keltiek Rostren ('Clwb Celtaidd Rostren'), lle canodd Lomiou Doniou.
Pan ddaeth y don o gerddoriaeth Geltaidd yn dilyn protestiadau mawrion Mai 1968 ar draws Ffrainc a recordiau Alan Stivell, dechreuon nhw ganu ymhellach i ffwrdd o'u bro, gan gynnwys rhannu llwyfanau ym Mharis gyda'r C'hoarezed Goadeg ('Chwiorydd Goadeg').
Eu caneuon
golygu
Roedd eu repertoir yn cynnwys caneuon daethant yn adnabyddus am eu canu:
- Kimiad ar soudard yaouank, ('Ffarwel y Milwr Ifanc'), gan Prosper Proux
- Son ar miliner, ('Sŵn y Melinydd') bellach wedi'i ganu fel polca ac wedi'i ailenwi'n 'Joli Coucou'.
- Tud yaouank ma farrouz ('Pobl ifanc fy Farrouz')
Bywyd
golyguGan eu mam dysgodd y meibion holl alawon a thonau bu iddynt ganu a pherfformio. Roedd eu mam wedi dysgu'r caneuon hynny gan ei thad, Guillomme Creff (Gwilym 'Gryf'), a aned ym 1852. Roeddynt yn canu gwahanol donau gan gynnwys tôn neu arddull y gavotenn.
Roedden nhw'n ffermwyr proffesiynol yn Botkol. Ffurfion nhw gôr traddodiadol ym 1958.
Fel y C'hoarezed Goadeg, gwnaethont lawer i adfywio a dyrchafu canu traddodiadol Llydewig. Eu cân enwocaf yw Joli Koukou sydd wedi dod yn anthem iddyn nhw.
Bu i'r brodyr Morvan (Henri ac Yvon) deithio o gwmpas Llydaw ar gyfer y festoù-noz. Hyd at diwedd eu gyrfa byddent yn perfformio yng ngŵyl fawr gerddorol flynyddol Gouel an Erer Gozh ('Gŵyl yr Hen Aradr') yn Karaez-Plougêr ym Mhenn-ar-Bed. Am y tro cyntaf yn 2009, perfformiodd y Brodyr cyntaf yn hanes Llydaw ar lwyfan mwyaf yr ŵyl, gyda'r Bronx Tambours o flaen 60,000 o bobl, gyda 230,000 o bobl mewn pedwar diwrnod. Fe wnaethon nhw hefyd ganu mewn cyngerdd o'r enw Fest-noz yn Botkol ym 1999.
Disgograffi
golyguNi recordiwyd llawer ganddynt er gwaethaf eu prysurdeb a phoblogrwydd.
Recordiau hir
golygu- Breiz, gyda Les Sœurs Banniel [un ochr y record yr un], Richesse du folklore vol 7, Riviera, 321015, 33 tours, (1965)
- Ar Vreudeur Morvan - 'Y Bordyr Morvan' Label Vélia, 2230011, ailgyhoeddi fel CD, Label RKB/Coop Breizh, CD 422 (1974)
- Les Frères Morvan - ('Y Brodyr Morvan') Label Coop Breizh, CD 893, lle clywir eu mam Augustine a'u brawd Yves yn y 1960au (1999)
- Un demi-siècle de kan ha diskan - ('Haner canrif o kan a diskan') Label Coop Breizh, CD 1016 dau CD o archif hen recordiadau a recordiadau sain y brodyr, yn ogystal â'u mam (2009)
Urddo
golygu- 2002: Chevaliers des Arts et des Lettres ar gyfer François, Henri ac Yvon Morvan
- 2012: Urzh an Erminig (Urdd y Carlwm - anifail genedlaethol Llydaw) gan Sefydliad Llydewig, Skol Uhel ar Vro.[5]
- 2013: Ordre des Arts et des Lettres, rheng Officiers.[6]
- 2019 : Commandeurs des Arts et des Lettres i Henri ac Yvon Morvan
Gwobrau
golyguEnillodd yr albwm Un Demi-siècle Kan-ha-diskan chweched rhifyn Grand Prix Albwm gan papur Le Télégramme a gyhoeddwyd ar 27 Ebrill 2010.
Ffilmiau
golyguFrères de chants, yn y rhaglen ddogfen Jérémy Véron 52 munud o hyd. Cyd-gynhyrchu Plan Large Productions, VO Productions a France Télévisions.
Llyfryddiaeth
golyguAlain le Nédélec, Les Frères Morvan, Homme De Bretagne (1994)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ouest-France, 19 Mai 2012
- ↑ Ouest-France, 19 Awst 2022
- ↑ "Henri, le dernier des frères Morvan, est mort: une page de la culture bretonne se tourne" (yn Ffrangeg). Ouest France (papur dyddiol). 12 Ebrill 2025.
- ↑ Frédéric Potet (12 Awst 2017). "Les frères Morvan, légendes vivantes et mythe breton" (yn Ffrangeg). Le Monde. Cyrchwyd 28 Mai 2025.
- ↑ "Liste Hermines". Gwefan Skol Uhel ar Vro. Cyrchwyd 24 Awst 2026.
- ↑ Les frères Morvan faits officiers des Arts et des Lettres
Dolenni allanol
golygu- @LesFrèresMorvan Tudalen Facebook ffans y Brodyr