Y Faner Goch
Symbol rhyngwladol o Sosialaeth a Chomiwnyddiaeth yw'r faner goch,[1][2] a gysylltir â gwleidyddiaeth yr adain chwith ers Chwyldro Ffrainc.[3] Codwyd dros y dosbarth gweithiol am y tro cyntaf yn hanes Prydain ym Merthyr Tudful, yn ystod gwrthryfel 1831 pan liwiwyd dwy faner mewn gwaed llo.[4] Mae baneri sawl gwlad gan gynnwys Rwsia, Tsieina a Fietnam wedi eu sefydlu ar y Faner Goch wreiddiol. Caiff hefyd ei defnyddio fel lliw undebau a phleidiau sosialaidd ledled y byd. Yn ogystal â bod yn ddefnydd lliw coch ar bolyn, mae'r Faner Goch hefyd yn anthem a gyfansoddwyd gan Ernst Anschütz yn 1824 a'r geiriau gwreiddiol gan Jim Connell yn 1889.
| Math | baner |
|---|---|
| Lliw/iau | coch |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01y8r2 |

Yr anthem
golyguO'r symbol daw enw'r gân ddosbarth gweithiol Y Faner Goch (The Red Flag) a ysgrifennwyd gan y Gwyddel Jim Connell yn 1889. Ysgrifennwyd y geiriau Cymraeg gan y bardd Niclas y Glais, a ddechreua:
Mae baner gwerin yn y nen
A'i phlygion tanllyd uwch ein pen;
O'r gwan a sathrwyd o dan draed
Y daeth i'w phlygion liw y gwaed.
Cytgan:
Mae'r Faner Goch yn fflam o dân
Yn chwifio yn yr awyr lân;
Er brad y stanc a nos y gell
Cyhoedda'r faner ddyddiau gwell.
Mae'r holl benillion ar gael ar Wicitestun.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Red Flag ends Labour rally". BBC News. 1 Hydref 1999. Cyrchwyd 8 Mai 2011.
- ↑ "Labour Party Anthems - Top 10 songs the Labour Party has used over the years". Daily Mirror. 7 Ebrill 2010. Cyrchwyd 8 Mai 2011.
- ↑ Brink, Jan ten Robespierre and the Red Terror, 1899.
- ↑ Terfysg Merthyr, BBC eclips