Mae wynn neu wyn[1] (Ƿ ƿ; hefyd wen, win, ƿynn, ƿyn, ƿen, a ƿin), sy'n debyg i P, yn llythyren o'r Hen wyddor Saesneg, lle mae'n cael ei defnyddio i ddynodi'r sain /w/. Daeth yn wreiddiol o rwnau Eingl-Ffrisiaidd yr Eingl-Sacsoneg. Yr wyddor rwnig, neu'r beithynen, oedd gwyddor gynhenid yr Hen Saesneg cyn i'r wyddor Ladin gael ei defnyddio, ac roedd yn chwaer-wyddor i'r wyddor Ffwrtharc Iau a ddefnyddiwyd gan Hen Norseg. Mae'r gwyddorau ill dau yn dod o Ffwrtharc Hŷn.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys llythrennau arbennig. Heb rendro cymorth priodol, efallai'r gwelwch farciau cwestiwn, blychau, neu symbolau eraill.
Wynn in the Hildebrandslied manuscript (830s): the text reads ƿiges ƿarne.
Mae wynn yn briflythyren yn ymddangos ddwywaith yn yr arysgrif o'r 10fed ganrif ym Mreamore: her sƿutelað seo gecƿydrædnes ðe (Yma yr amlygir y Gair i ti).

Cyfeiriadau

golygu
  1. "wyn". Oxford English Dictionary. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Ail argraddiad. 1989.