William Gilbert Rees
Roedd William Gilbert Rees (6 Ebrill 1827 — 31 Hydref 1898) yn archwiliwr, mesurwr, ag yn ymsefydlwr cynnar yng Nghanol Otago, Seland Newydd. Fe a gyd-archwiliwr Nicholas von Tunzelmann oedd yr Ewropiaid cyntaf i ymsefydlu ym masn Wakatipu. Mae Rees yn cael ei ystyried fel sefydlwr Queenstown.
| William Gilbert Rees | |
|---|---|
| Ganwyd | 6 Ebrill 1827 Haroldston St. Issell's |
| Bu farw | 31 Hydref 1898 Blenheim |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cricedwr |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | tîm criced De Cymru Newydd |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Rees yn Haroldston St Issell, Sir Benfro, Cymru, ym 1827. Roedd ei dad yn is-gapten gyda'r Y Llynges Frenhinol. Addysgwyd Rees yn ysgol Y Llynges Frenhinol.[1]
Allfudodd Rees i Dde Cymru Newydd ym 1852, yna fe ddaeth yn ffermwr defaid. Dychwelodd i Loegr ym 1858 i briodi cariad o'i blentyndod, ei gefnder Frances Rebecca Gilbert (ganwyd Tachwedd 1838).[2]
Sefydlodd fferm "high country" ym 1860 yn cyfagos i safle presennol canol tref Queenstown. Roedd ei ffermdy wedi'i leoli yn cyfagos ag aber Afon Kawarau, lle mae gwesty Hilton heddiw. Mae rhai o'r adeiladau hanesyddol wedi eu cadw.
Mae maestref Queenstown, Frankton, wedi ei enwi ar ôl ei wraig Frances. Mae Parc Cecil a Parc Walter wedi eu enwi ar ôl enwau cyntaf ei feibion.
Dwy flynedd yn ddiweddarach, darganfyddwyd aur yn yr ardal i'r gogledd ddwyrain, ar yr adeg hyn, newidiodd Rees ei sied wlân mewn i westy o'r enw the Queen's Arms, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Eichardt's.[3] Heddiw mae Rees yn cael ei ystyried fel sefydlwr Queenstown.
Roedd Rees yn esboniwr cynnar yn Seland Newydd ar gyfer y gêm o griced, gan ei fod wedi cael ei eni mewn i deulu a oedd gyda cysylltiadau cryf i'r gêm. Roedd yn aelod o'r teulu Grace, ac yn perthyn fel cefnder i W.G. Grace, arwr cynnar i'r gêm. Ymddangosodd yn un o'r gemau dosbarth cyntaf i Dde Cymru Newydd ym 1857; roedd ei gefnder William Lee Rees yn chwarae i Victoria yn yr un gem.[4] Roedd e hefyd yn credwr Anglicanaidd brwd ac fe cynorthwyodd gyda adeiladu Eglwys Sant Pedr, yng nghanol Queenstown, cafodd ei gyflawni ym 1863.[5]
Mae Afon Rees yn Central Otago wedi ei enwi ar ôl Rees, ac mae cerflun ohono yn sefyll ar Rees Street, sy'n gyfagos i lanfa'r tref. Mae yna westy o'r enw The Ree ar heol Frankton yn Queenstown sydd gyda'i enw arno ac mae yna bont ar State Highway 6 sydd wedi ei enwi yn ei gof.[6]
Bu farw yn Blenheim, Seland Newydd, ar 31 Hydref 1989,[7] ac fe gladdwyd ym mynwent Omaka.[8]
Oriel
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Barry, William Jackson (1897). Past and Present, and Men of the Times. Wellington: McKee and Gamble. tt. 243–245. Cyrchwyd 22 Mehefin 2012.
- ↑ "Untitled". T and G Brownen. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 22 Mehefin 2012.
- ↑ "History: William Gilbert Rees". Experience Queenstown. Cyrchwyd 22 Mehefin 2012.
- ↑ "William Rees". Cricinfo. Cyrchwyd 22 Mehefin 2012.
- ↑ "St Peter's Church". Parish of Wakatipu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-29. Cyrchwyd 22 Mehefin 2012.
- ↑ Caldwell, Olivia (23 Mai 2012). "Cycle bridge laid for Queenstown Trail". Otago Daily Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 22 Mehefin 2012.
- ↑ "Obituary". The Press. 1 Tachwedd 1898. t. 6. Cyrchwyd 1 Mawrth 2015.
- ↑ "Cemetery records search". Marlborough District Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 1 Mawrth 2015.