Tom Hooson
Roedd Thomas (Tom) Ellis Hooson (16 Mawrth 1933 – 8 Mai 1985) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed o 1979 i 1985.[1]
| Tom Hooson | |
|---|---|
| Ganwyd | 16 Mawrth 1933 Y Rhyl |
| Bu farw | 8 Mai 1985 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Bywyd personol
golyguGanwyd Hooson yn y Rhyl, Sir Ddinbych, yn fab i David Maelor Hooson, amaethwr, a Ursula (née Ellis) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Rhyl a Choleg y Brifysgol Rhydychen. Cafodd ei alw i'r Bar yn Gray's Inn. Roedd yn gefnder i'r Aelod Seneddol Rhyddfrydol Emlyn Hooson; roedd y bardd I. D. Hooson yn hen ewyrth iddo. Roedd yn ddi-briod.
Gyrfa
golyguBu'n gweithio ym myd y cyfryngau, cyhoeddi, hysbysebu a marchnata ym Mhrydain, UDA a Ffrainc fel cyfarwyddwr yng nghwmnïau Benton & Bowles a'r Periodical Publishers Association. Bu hefyd yn gweithio i'r Blaid Geidwadol fel cyfarwyddwr cyfathrebu o 1976 i 1978.[2] Sefydlodd y cylchgrawn Welsh Farm News ym 1957.
Gyrfa wleidyddol
golyguSafodd yn aflwyddiannus fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Caernarfon ym 1959. Safodd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn etholiad 1979 gan gipio'r sedd oddi wrth Caerwyn Roderick a'r Blaid Lafur gan ddal y sedd hyd ei farwolaeth ym 1985
Marwolaeth
golyguBu farw ar ôl brwydr hir yn erbyn y cancr yn ei gartref yn Llundain ym 1985.
Cyfeiriadau
golygu| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Caerwyn Roderick |
Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed 1979 – 1985 |
Olynydd: Richard Livsey |