Thomas Malthus
economegydd gwleidyddol Prydeinig (1766-1834)
Economegydd a chlerigwr o Sais oedd Thomas Robert Malthus (14 Chwefror 1766 - 23 Rhagfyr 1834), a aned ger Dorking, Surrey, yn ne Lloegr. Mae'n adnabyddus am ei waith dylanwadol An Essay on the Principle of Population (1798 a 1807), llyfr a gadarnheuodd ddamcaniaeth detholiad naturiol ym meddwl Charles Darwin.
| Thomas Malthus | |
|---|---|
| Ganwyd | Thomas Robert Malthus 13 Chwefror 1766, 14 Chwefror 1766 Westcott, Surrey |
| Bu farw | 23 Rhagfyr 1834 Caerfaddon |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | economegydd, awdur ysgrifau, ystadegydd, demograffegwr, offeiriad Anglicanaidd, cymdeithasegydd, mathemategydd, ysgrifennwr, person ôl-raddedig ym maes busnes |
| Adnabyddus am | Malthusian growth model, Malthusianism, An Essay on the Principle of Population, Malthusian catastrophe |
| Prif ddylanwad | Jean-Jacques Rousseau |
| Tad | Daniel Malthus |
| Mam | Catherine Graham |
| Priod | Harriet Eckersall |
| Plant | Henry Malthus, Lucy Malthus, Emily Malthus |
| Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Galwodd Malthus am fesurau i reoli tyfiant poblogaeth trwy ddulliau atalgenhedlu neu lwyrymwrthod â chyfathrach rhywiol. Cododd ei waith wrychyn nifer o wrthwynebwyr ceidwadol.
Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys An Inquiry into the Nature and Progress of Rent (1815) a Priciples of Political Economy (1820), llyfr a fraenarodd y tir ar gyfer gwaith David Ricardo.