Tarangwmwl
Math o gwmwl y'r tarangwmwl neu cwmwlonimbws.
| Enghraifft o: | genera cwmwl |
|---|---|
| Math | vertical multi-level clouds |
| Hyd | 30 munud, 4 awr |
| Gwefan | https://cloudatlas.wmo.int/cumulonimbus-cb.html |
| Dynodwyr | |
Gelwir y cymylau mawr rhwysgfawr hyn sydd fel blodfresych tal bolddu yn 'gymylau terfysg'. Maent yn ffurfio pan fydd corff o aer yn cael ei gynhesu gan ddaear gynnes fel a geir ar dywydd poeth yn yr haf. Bydd hynny yn peri i gerrynt o aer ddechrau dringo a chreu cylchdro o awyr sy'n codi'n uchel i'r entrychion gan ffufio cymylau mawrion uchel Cwmwlonimbws. Yn rhannau uchaf y cymylau hyn bydd y defnynnau glaw yn rhewi'n genllysg a bydd y rheini, yn eu tro, yn taro yn erbyn ei gilydd gan greu tensiwn trydanol rhwng gwaelod a phen y cwmwl. Bydd hynny, weithiau, yn ddigon i greu storm o fellt a tharanau.
Enwau lleol a thraddodiadau gwerin
golyguCeir amryw o enwau lleol ar gymylau tal gwynion Cumulonimbus sy'n dueddol o ddod â glawogydd trymion ac yn aml fellt a tharanau yn ogystal. Enwau eraill arnynt yw cymylau t'ranau (cyffredin yn y gogledd); cymylau tyrfe (Cwm Tawe) a cymylau trawste (Dyffryn Teifi).
Yng Ngwynedd a Môn fe'u cyffelybir â byddigion neu esgobion rhwysgfawr:
- Byddigion Cricieth – arwydd o law trwm neu derfysg (Meirionnydd).
- Esgobion Bangor yn eu gwenwisg – terfysg (Rhoshirwaun)
- Esgobion Sir Feirionnydd, os ydynt i'r de (Mynydd Nefyn)
- Esgobion Tyddewi, os ymhell dros y môr i'r de (Neigwl, Nefyn)
Ym Môn, ffurf wreiddiol iawn ar y dywediad hwn am gymylau terfysg yw: 'Mae Esgobion Bangor wedi bod yn yfad eto – fe ddown nhw i biso am ein penna' ni cyn bo hir'.
Yr 'hen bersoniaid' oedd enw y dramodydd Wil Sam Jones, Rhos-lan arnyn nhw.