Surat
dinas, India
Porthladd yn nhalaith Gujarat yn India yw Surat (Gujarateg: સુરત). Roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 2007 tua 4 miliwn. Sutat yw dinas ail-fwyaf Gujarat a'r nawfed o ran maint yn India. Saif y ddinas ar Afon Tapti.
| Math | dinas, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 5,935,000 |
| Cylchfa amser | UTC+05:30 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hindi, Gwjarati |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gujarat, Bombay State, Bombay Presidency |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 327 km² |
| Uwch y môr | 13 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 21.205°N 72.84°E |
| Cod post | 394 XXX , 395 XXX |
Yn ôl traddodiad lleol, sefydlwyd y ddinas ym mlynyddoedd olaf y 15g. Yn 1514 disgrifiodd y teithiwr Portiwgeaidd Duarte Barbosa y ddinas fel porthladd pwysig. Yn ystod cyfnod Ymerodraeth y Mughal, Surat oedd porthladd pwysicaf yr ymerodraeth pan oedd Akbar, Jahangir a Shah Jahan ar yr orsedd.
Prif ddiwydiannau Surat yw tecstitlau a diewmwntau; caiff 92% o ddiemwntau'r byd eu torri a'u gloywi yn Surat. Yn y blynyddoedd diwethaf mae tŵf economaidd Surat wedi bod ymhlith yr uchaf yn India, 11.5% yn 2008.

Dolennau allanol
golygu- Surat Archifwyd 2009-07-28 yn y Peiriant Wayback