Steòrnabhagh
Prifddinas ynys Leòdhas yw Steòrnabhagh (Gaeleg yr Alban; Saesneg: Stornoway; Sgoteg: Stornowa).[1] Dyma'r unig dref weddol fawr yn Ynysoedd Allanol Heledd yn yr Alban, gyda phoblogaeth o tua 9,000 (26,370 sy'n byw yn yr ynysoedd cyfan).
| Math | tref, bwrdeistref fach, dosbarth |
|---|---|
| Poblogaeth | 5,070 |
| Gefeilldref/i | Pendleton |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 58.209°N 6.387°W |
| Cod OS | NB426340 |
| Cod post | HS1 |
Steòrnabhagh yw canolfan weinyddol yr ynysoedd lle ceir pencadlys Comhairle nan Eilean Siar ('Cyngor Ynysoedd Heledd', Saesneg: Western Isles Council). Mae gan y dref goleg, amgueddfa, llyfrgell, oriel celf, cwrs golff, canolfan chwaraeon a chanolfan y celfyddydau, An Lanntair, ag agorwyd yn 2005.[2] Adeiladwyd castell yn y dref gan deulu MacNicol tua 1100. Dinistrwyd y castle ym 1653 gan fyddin Oliver Cromwell, a deffnyddiwyd y gweddillion i adeiladu pier yn y 1800au.[3]
Daw'r enw o'r enw Norseg Stjornavagr.
Ceir cysylltiad fferi ag Ulapul (Ullapool) ar y tir mawr. Mae maes awyr bychan ger pentref Mealabost (Melbost), ryw ddwy filltir i ffwrdd.



Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 16 Ebrill 2022
- ↑ Gwefan www.isle-of-lewis.com
- ↑ Gwefan undiscoveredscotland.co.uk