Sioriaeth
Mudiad barddonol anffurfiol yn yr 20g yn Saesneg, ac un cyfatebol mewn barddoniaeth yn y Gymraeg, oedd Sioriaeth neu Farddoniaeth Sioraidd (Saes: Georgist Poetry, Georgian Poetry). Cyfeiriad yw'r enw at deyrnasiad y Brenin Seisnig George neu Siôr V, ac nid at y cyfnodd Sioraidd (1715–1830); teyrnasodd George V o 1910–1936 ac roedd y mudiad ar ei anterth yn Lloegr a Chymru yn ystod y cyfnod hwnnw, er bod llawer o'r enwau a gysylltir gydag ef yn weithredol cyn ac ymhell ar ôl hynny.
| Dynodwyr |
|---|
Hanfodion
golyguFel llawer i fudiad ac ysgol farddonol nid oedd yn fudiad ffurfiol gydag aelodaeth swyddogol, ond yn hytrach ffordd o gyfeirio at dueddiadau mewn barddoniaeth oedd i'w gweld yn ngwaith nifer o feirdd yn ystod y cyfnod 1910–1936. Tarddodd y term fodd bynnag o gyfres o Flodeugerddi Saesneg yn dwyn y teitl Georgian Poetry a gyhoeddywd rhwng 1912 ac 1922 dan olygyddiaeth Edward Marsh.
Hanfodion y farddoniaeth hon oedd Rhamantiaeth, pwyslais ar deimlad ac eglurdeb, a gwrthod Esthetiaeth a Chlasuriaeth. Gellir cyferbynnu barddoniaeth Sioraidd â'r llenyddiaeth Fictorianaidd a'i rhagflaenodd ac hefyd y farddoniaeth Fodernaidd a'i dilynodd.
Roedd barddonaieth o'r fath yn boblogaidd eithriadol ar y pryd: awgryma un ffynhonell bod mwyafrif helaeth barddoniaeth Saesneg yr 1930au yn dangos nodweddion Sioriaeth[1] ac mae'r beirdd Sioraidd enwocaf yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn parhau'n boblogaidd hyd heddiw. Fodd bynnag defnyddiwyd y term mewn ystyr ceidwadol a negyddol gan rai beirniaid ddiweddarach, er enghraifft Bobi Jones,[2] er nad oedd y beirdd Sioraidd Saesneg yn ystyried eu hunain fel mudiad ceidwadol neu adweithiol ar y pryd[3] na chwaith eu cyfoeswyr yn y Gymraeg.
Ym Marddoniaeth Saesneg
golyguGan ddiffinio Barddoniaeth Sioraidd fel gwaith y beirdd hynny'n unig a ymddangosodd yng nghyfrolau Georgian Poetry, byddai'r beirdd Saesneg Sioraidd yn cynnwys Edmund Blunden, Rupert Brooke, Robert Graves, D. H. Lawrence, Walter de la Mare, John Masefield, Siegfried Sassoon, Ralph Hodgson, John Drinkwater a Vita Sackville-West, ynghyd â'r bardd Eingl-Gymreig W. H. Davies.
Fodd bynnag, ymestynnir y term weithiau i gyfeirio hefyd at waith ffigurau blaenllaw eraill fel A. E. Housman a'r Americanwr Robert Frost.[2]
Ym Marddoniaeth Gymraeg
golyguYmysg y beirdd Cymraeg y mae eu gwaith, yn rhannol neu'n gyflawn, wedi eu rhestri fel enghreifftiau o Sioriaeth, yw W. J. Gruffydd, Cynan, R. Williams Parry, Crwys, Wil Ifan, Dewi Emrys, I. D. Hooson ac Iorwerth C. Peate.[2] Yn ôl Bobi Jones roedd T. Gwynn Jones yn fardd Sioraidd yn ei gyfnod canol, a defnyddiodd y term "neo-Sioraidd" i ddisgrifio rhai agweddau o waith cywyddwyr yr 1970au fel Alan Llwyd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ruff, Allan R. (2015). Arcadian Visions: Pastoral Influences on Poetry, Painting and the Design of Landscape. Barnsley: Windgather Press. t. 198.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Bobi Jones (1987) Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936, Cyhoeddiadau Barddas.
- ↑ James Bridges, "Georgian Poetry", The Literary Encyclopedia, Cyhoeddwyd 31 Gorffennaf 2002.