Saimaa
Llyn mwyaf y Ffindir yw Saimaa. Gydag arwynebedd o tua 4,400 km², ef yw'r pedwerydd llyn naturiol yn Ewrop o ran maint. Saif yn ne-ddwyrain y wlad, ac mae'r trefi ar ei lan y cynnwys Lappeenranta, Imatra, Savonlinna, Mikkeli, Varkaus a Joensuu. Llifa afon Vuoksi o'r llyn i Lyn Ladoga ac mae Camlas Saimaa yn ei gysylltu a Gwlff y Ffindir.
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | North Savo, South Savo, South Karelia, North Karelia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 4,400 km² |
| Uwch y môr | 75.7 metr |
| Cyfesurynnau | 61.25°N 28.25°E |
| Dalgylch | 69,500 cilometr sgwâr |
Ceir nifer fawr o ynysoedd yn y llyn, ac mae rhywogaeth o forlo dŵr croyw sy'n unigryw i'r llyn yma.
