Oblast Murmansk
Un o oblastau Rwsia yw Murmansk (Rwseg: Му́рманская о́бласть, Murmanskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Murmansk. Poblogaeth: 795,409 (Cyfrifiad 2010).
| Math | oblast, federal subject of Russia |
|---|---|
| Prifddinas | Murmansk |
| Poblogaeth | 656,438 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Q4138471 |
| Pennaeth llywodraeth | Andrey Chibis |
| Cylchfa amser | Amser Moscfa, Ewrop/Moscfa |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 144,902 km² |
| Yn ffinio gyda | Oblast Arkhangelsk, Karelia, Lapland, Finnmark, Troms og Finnmark |
| Cyfesurynnau | 68.03°N 34.57°E |
| RU-MUR | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Murmansk Oblast Duma |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Murmansk Oblast |
| Pennaeth y Llywodraeth | Andrey Chibis |


Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol, yn bennaf ar Benrhyn Kola, ac mae'n rhan o ranbarth diwylliannol Lapland sy'n cynnwys pedair gwlad. Mae'n gorwedd bron yn gyfan gwbl i'r gogledd o Gylch yr Arctig. Mae Oblast Murmansk yn ffinio gyda Karelia, swydd Finnmark yn Norwy a Thalaith Lapland yn y Ffindir. Mae ganddo arfordir ar lan Môr Barents a'r Môr Gwyn. Mae Swydd Norrbotten yn Sweden yn agos hefyd (300 km).
Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth yr oblast yn fryniog, gan godi i'w phwynt uchaf ym Mynyddoedd Khibiny. Yn y gogledd ceir tundra, gyda taiga yn y de. Er gwaethaf ei leoliad gogleddol, mae'r hinsawdd yn llai oer na'r disgwyl oherwydd effaith Llif y Gwlff.
Sefydlwyd Oblast Murmansk ar Fai 28, 1938. Mae'n ardal o bwys strategol i Rwsia; mae gan Llynges Ogleddol Rwsia ei phencadlys yn Severomorsk, 25 km i'r gogledd o Murmansk.
Dolenni allanol
golygu- (Rwseg) Gwefan swyddogol yr oblast Archifwyd 2020-11-27 yn y Peiriant Wayback