Michal
Tywysoges o Frenhiniaeth Israel oedd Michal /mɪˈxɑːl/ (Hebraeg מִיכַל [miˈχal] Groeg Μιχάλ) yn ôl Llyfr Cyntaf Samuel, merch ieuenga'r Brenin Saul, a gwraig gynta'r Brenin Dafydd (1 Samuel 18:20-27), brenin cyntaf ar Jwda, ac yna ar holl Israel, gan ei gwneud hi'n frenhines-gymar Israel.
| Michal | |
|---|---|
| Tad | Saul |
| Mam | Achinoam |
| Priod | Dafydd, Palti |
Yn y Beibl
golyguMae Pennod 1 Samuel 14:49 yn enwi merch hynaf Saul fel Merab a'i ferch ieuengaf fel Michal. Ceir hanes Michal yn Llyfr Cyntaf Samuel lle nodir yn 1 Samuel 18:20 a 18:28 bod Michal yn caru Dafydd. Nid yw'r stori'n nodi os yw Dafydd yn ei charu hithau.[2] Wedi buddugoliaeth Dafydd yn erbyn y cawr Goliath, rhoddwyd Merab yn wraig briod i Adriel.
Wedi priodas Merab gyda Adriel y Meholathiad, gwahoddodd Saul Dafydd i briodi Michal. Atebodd Dafydd, "Dyn tlawd a dibwys ydw i", sy'n golygu nad oedd yn gallu darparu pris priodas. Cynghorodd Saul ef nad oedd angen unrhyw bris priodas ac eithrio blaengroen 100 o Ffilistiaid. Cymerodd Dafydd ran mewn brwydr arall, lle lladdodd 200 o Ffilistiaid, a daeth â'u blaengrwyn i Saul fel pris priodas mwy na'r disgwyl.
Yn y naratif beiblaidd, mae Michal yn dewis lles Dafydd dros ddymuniadau ei thad. Pan mae negeswyr Saul yn chwilio am Dafydd er mwyn ei ladd, mae Michal yn eu hanfon ymaith gan esgus ei fod yn sâl ac yn ei wely. Mae hi'n helpu Dafydd i ddianc drwy'r ffenest.
Tra mae Dafydd yn cuddio er mwyn achub ei fywyd, rhoddodd Saul Michal yn wraig i Palti, mab Laish, a chymerodd Dafydd sawl gwraig arall, gan gynnwys Abigail. [3] Yn ddiweddarach, pan ddaeth Dafydd yn frenin Jwda ac Ish-bosheth (brawd Michal, a mab Saul) yn frenin Israel, mynnodd Dafydd bod Michal yn dychwelyd ato yn gyfnewid am heddwch rhyngddynt. Cydymffurfiodd Ish-bosheth, er gwaethaf protestiadau cyhoeddus Palti. [4]
Ar ôl i Michal ddychwelyd at Dafydd, fe'i beirniadodd am ddawnsio mewn modd anurddasol mewn gorymdaith grefyddol, wrth iddo ddod ag Arch y Cyfamod i'r Jerwsalem gaethedig newydd. [5] Am hyn, mae hi'n cael ei chosbi, yn ôl Samuel, drwy beidio medru esgor ar blant, tan ddiwrnod ei marwolaeth.[6] Yn wahanol i Abigail a Bathsheba, ni ddisgrifir Michal fel un hardd, er bod traddodiad Rabinaidd yn dal ei bod hi o "harddwch hudolus". [7]
Crybwyllir Michal hefyd yn 1 Cronicl 15:29 .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ellen White, "Michal the Misinterpreted," JSOT 31.4 [2007] 451–464.
- ↑ In 1 Samuel 18:26, David is "pleased ... to become the king’s son-in-law" but we are not told whether he was pleased to have married Michal. See Cohen, M., "The Transparency of Saul", European Judaism, volume 39, no. 1, 2006, for a comparison of the transparent presentation of Saul and the opaqueness of David's character in 1 Samuel.
- ↑ 1 Samuel 25:43-44
- ↑ 2 Samuel 3:13-16
- ↑ 2 Samuel 6:14-22
- ↑ 2 Samuel 6:23
- ↑ Ginzberg, Louis. "The Family of David". The Legends of the Jews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-12. Cyrchwyd 2025-09-20.