Môr Chukchi
môr
Un o foroedd ymylol Cefnfor yr Arctig yw Môr Chukchi (Rwseg: Чуко́тское мо́ре), sy'n gorwedd rhwng Rwsia a'r Unol Daleithiau. Mae'n terfynu yn y gorllewin gyda Culfor De Long, ger Ynys Wrangel, ac yn y dwyrain gan Pwynt Barrow, Alaska, gyda Môr Beaufort y tu hwnt i hynny. Mae Culfor Bering yn ffurfio ei derfyn deheuol ac yn ei gysylltu gyda Môr Bering a'r Cefnfor Tawel. Y prif borthladd yw Uelen yn Ocrwg Ymreolaethol Chukotka yn Nwyrain Pell Rwsia.
| Math | môr |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cefnfor yr Arctig |
| Gwlad | Rwsia, Unol Daleithiau America |
| Cyfesurynnau | 69.51°N 171.29°W |
Enwir y môr ar ôl y bobl Chukchi, sy'n byw yn Ocrwg Ymreolaethol Chukotka. Ceir poblogaeth sylweddol o Eirth Gwyn yn yr ardal.
