Llandecwyn

pentref yng Ngwynedd

Plwyf a phentrefan gwasgaredig yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Llandecwyn ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (cyfeiriad grid SH632375). Yn ôl traddodiad fe'i cysylltir â Sant Tecwyn (fl. 6g?), a sefydlodd llan yno. Mae'n rhan o gymuned Talsarnau

Llandecwyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalsarnau Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9182°N 4.0351°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH631375 Edit this on Wikidata
Cod postLL47 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Eglwys Llandecwyn yn y gaeaf.

Gorwedd y plwyf yng ngogledd-orllewin Ardudwy ar lan ddeheuol Afon Dwyryd. Mae'n ymestyn o'r arfordir i fyny i fryniau gogleddol y Rhinogau. Ceir Llyn Tecwyn Uchaf a Llyn Llennyrch yng ngogledd y plwyf.

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro. Prin bod Llandecwyn yn "bentref" o gwbl, ond yn hytrach mae'n gymuned o dai a ffermydd gwasgaredig o gwmpas yr eglwys. Adeilad newydd a godwyd yn 1879 yw'r eglwys bresennol, ond mae'n sefyll ar safle egwlys ganoloesol. Erys carreg o tua'r 11g yno, yn coffa'r sant a ddaeth yma, yn ôl traddodiad, yng ngosgordd Cadfan. Ceir Plas Llandecwyn gerllaw.[1]

Brodor o Landecwyn oedd y pregethwr a llenor D. Tecwyn Evans (David Evans). Yma hefyd y ganed J. H. Jones, cyn-olygydd Y Brython.[1]

Ceir gorsaf Llandecwyn ar Reilffordd Arfordir Cymru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 T. I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Cyfres Crwydro Cymru, 1954).