Lemoiz
Mae Lemoiz yn dref ar arfordir Bizkaia, yn ardal Uribe Kosta. Yn 2016 roedd ganddi boblogaeth o 1,244. Mae bwrdeistref Lemoiz yn cynnwys tair cymdogaeth, gydag Urizar yn bencadlys. Yn ystod y 1970, bwriadwyd codi atomfa yno.
| Math | bwrdeistref Sbaen |
|---|---|
| Prifddinas | Lemoiz |
| Poblogaeth | 1,347 |
| Pennaeth llywodraeth | Jesus M Arizmendi |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Basgeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Q107556240 |
| Lleoliad | Mungialdea |
| Sir | Uribe-Kosta |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 18.9 km² |
| Uwch y môr | 89 metr |
| Gerllaw | Môr Cantabria |
| Yn ffinio gyda | Gorliz, Plentzia, Gatika, Maruri-Jatabe, Bakio |
| Cyfesurynnau | 43.4114°N 2.9023°W |
| Cod post | 48620 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Lemoiz |
| Pennaeth y Llywodraeth | Jesus M Arizmendi |
Daearyddiaeth
golyguLleoliad
golyguLleolir Lemoiz ar arfordir Bizkaia, yn ardal Uribe-Kosta. I'r gogledd, ceir Bae Bizkaia; i'r gorllewin, Gorliz a Plentzia; i'r de, Gatika; i'r de-ddwyrain, Jatabe; ac i'r gogledd-ddwyrain, Bakio. Cyfanswm arwynebedd y fwrdeistref yw 18.9 km² ers ychwanegu ardal Basorda (13.8 km² oedd yr arwynebedd cyn hynny).
Mae Lemoiz 26 km i'r gogledd o Bilbo. Yn agosach ceir trefi Mungia 9.5 km i'r de-ddwyrain, a Gorliz, y dref agosaf, 3.5 km i ffwrdd.
Nodweddir yr ardal gan ddyffryn nant Andraka, sy'n tarddu yn ne'r pentref ac yn rhedeg tua'r môr yn y gogledd. Ar bob ochr i'r dyffryn mae bryniau dros 200 metr. Mae gweddill y tir yn fryniog. Y copa uchaf yn y fwrdeistref yw bryn Urizar, 290 metr o uchder. Mae'r arfordir yn llawn clogwyni a thraethau. Copa nodedig arall yw Ermua (289 m), wedi'i leoli ar yr arfordir.
Cymdogaethau
golyguMae'r tair ardal hanesyddol i'r fwrdeistref, sef pen, canol a gwaelod nant Andraka. Y mwyaf deheuol a'r uchaf yw cymdogaeth Andraka, wrth ymyl tarddle'r nant o'r un enw. Yn y canol, mae cymdogaeth Urizar, lle mae neuadd y dref. Yn olaf, mae Armintza wedi'i leoli ar yr arfordir, ger aber Andraka.
Hanes
golyguGweler Atomfa Lemoiz
Diwylliant
golyguYr Iaith Fasgeg
golyguYn Lemoiz[4] siaredir Basgeg Uribe Kosta[5], sef amrywiad o'r dafodiaith orllewinol.
Gwyliau a dathliadau
golygu- Ar Fai 15 mae dathliadau er anrhydedd i San Isidro yn Urizar.
- Ar Orffennaf 16 mae dathliadau er anrhydedd i Fair y Brodyr Gwynion yn Armintza. Ynghyd â'r dathliadau, trefnir gŵyl Txapel Reggae.
- Ar Hydref 10, dathlir gwledd y nawddsant Sant Thomas yn Armintza gydag ymryson coginio.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mendizabal Zamakona, Ana Mari - Ahotsak.eus, https://ahotsak.eus/lemoiz/hizlariak/ana-mari-mendizabal-zamakona/
- ↑ Barturen Azkorra, Angel - Ahotsak.eus, https://ahotsak.eus/lemoiz/hizlariak/angel-barturen-azkorra/
- ↑ Ahotsak.eus, Euskal Herriko hizkerak eta ahozko ondarea, https://ahotsak.eus/
- ↑ (yn eu) Lemoiz - Ahotsak.eus, https://ahotsak.eus/lemoiz/
- ↑ (yn eu) Uribe Kostakoa - Ahotsak.eus, https://ahotsak.eus/euskalkiak/mendebalekoa-bizkaiera/sartaldekoa-m/uribe-kostakoa/