Larfa
Cyfnod yng nghylchred bywyd anifail sy'n cael metamorffosis yw larfa (lluosog: larfâu), gan ddod rhwng yr wy a'r anifail llawndwf. Gall rhai anifeiliaid gael mwy nag un cyfnod larfa.
Larfa buwch gota | |
| Enghraifft o: | ffurf o organeb |
|---|---|
| Math | anifail ifanc iawn |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0d9_3 |
| Thesawrws y BNCF | 22230 |
Mae grwpiau anifeiliaid sydd â chyfnod larfa yn cynnwys amffibiaid a phryfed. Gelwir larfa amffibiaid yn "benbyliaid"; gelwir cyfnod larfal pryfed yn gynrhon neu lindys.
Yn gyffredinol, mae larfâu yn edrych yn hollol wahanol i'r anifail llawndwf ac yn aml mae ganddyn nhw ffordd o fyw hollol wahanol hefyd. Er enghraifft, mae larfâu mosgitos neu weision neidr yn byw mewn dŵr, tra bod y pryfyn llawndwf (imago) yn byw ar y tir.