Indiana
Mae Indiana yn dalaith yng nghanolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd ym masn Afon Mississippi. Mae'n praire anwastad yn bennaf, gyda llynnoedd rhewlifol yn y gogledd. Mae Afon Indiana yn llifo trwy'r dalaith hon i ymuno ag Afon Mississippi. Cafodd Indiana ei archwilio gan y Ffrancod yn yr 17g. Fe'i ildiwyd gan Ffrainc i Brydain Fawr yn 1763 a chan Brydain i'r Unol Daleithiau yn 1783. Ar ôl rhyfel yn erbyn y bobl brodorol (a amddifadwyd o'u tiroedd) yn 1794, gwelwyd cynnydd yn y boblogaeth. Daeth yn dalaith yn 1816. Indianapolis yw'r brifddinas.
| Arwyddair | The Crossroads of America |
|---|---|
| Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
| Enwyd ar ôl | Indiana Territory |
| Prifddinas | Indianapolis |
| Poblogaeth | 6,785,528 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | On the Banks of the Wabash, Far Away |
| Pennaeth llywodraeth | Eric Holcomb |
| Gefeilldref/i | Tochigi |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
| Sir | Unol Daleithiau America |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 94,321 km² |
| Uwch y môr | 210 metr |
| Gerllaw | Llyn Michigan, Afon Ohio |
| Yn ffinio gyda | Michigan, Illinois, Ohio, Kentucky |
| Cyfesurynnau | 39.93°N 86.22°W |
| US-IN | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Government of Indiana |
| Corff deddfwriaethol | Indiana General Assembly |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywodraethwr Indiana |
| Pennaeth y Llywodraeth | Eric Holcomb |

Siroedd
golyguCeir 92 o siroedd yn Indiana ac yn eu plith mae 'County Owen', a alwyd ar ôl y milwr Abraham Owen (milwr) (1769-1811). Hanodd ei hen, hen, hen daid a nain (sef Humphrey a Catherine Owen) o Nannau ger Dolgellau.[1]
Dinasoedd Indiana
golygu| 1 | Indianapolis | 829,718 |
| 2 | Fort Wayne | 253,691 |
| 3 | Evansville | 117,429 |
| 4 | South Bend | 101,168 |
| 5 | Gary | 80,294 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan 'Family Tree Maker adalwyd 27/08/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-13. Cyrchwyd 2021-02-04.
Dolennau allanol
golygu- www.in.gov
- Gwefan Saesneg Owen County Archifwyd 2010-06-03 yn y Peiriant Wayback