Immanuel Wallerstein
Cymdeithasegydd o'r Unol Daleithiau oedd Immanuel Maurice Wallerstein (28 Medi 1930 – 31 Awst 2019) sydd yn nodedig am arloesi damcaniaeth systemau byd.
| Immanuel Wallerstein | |
|---|---|
Immanuel Wallerstein mewn seminar ym Mhrifysgol Ewropeaidd St Petersburg yn 2008 | |
| Ganwyd | Immanuel Maurice Wallerstein 28 Medi 1930 Dinas Efrog Newydd |
| Bu farw | 31 Awst 2019 Branford |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Addysg | Doethur mewn Athroniaeth |
| Alma mater | |
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | economegydd, geowleidydd, hanesydd mewn economeg, hanesydd, gwyddonydd gwleidyddol, ysgrifennwr, cymdeithasegydd, Africanist |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | The Modern World-System |
| Gwobr/au | Officier des Arts et des Lettres, W.E.B. Du Bois Career of Distinguished Scholarship award, honorary doctor of the University of Brasília, Doethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Annibynol Genedlaethol Mecsico, Kondratiev Medal, honorary doctorate from the University of Paris-VII |
| Gwefan | http://www.iwallerstein.com/ |
Ganed ym Manhattan a chafodd ei fagu yn y Bronx, Dinas Efrog Newydd, gan deulu Iddewig. Meddyg a rabi oedd ei dad, Lazar, ac arlunydd oedd ei fam Sara, Günsberg gynt. Derbyniodd Immanuel ei radd baglor o Brifysgol Columbia yn 1951. Wedi iddo wasanaethu yn y fyddin o 1951 i 1953, dychwelodd i Columbia ac enillodd ei radd meistr yno yn 1954 am ei draethawd estynedig ar bwnc McCarthyaeth. Teithiodd i Affrica gyda chymrodoriaeth o Sefydliad Ford yn 1955, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Columbia yn 1959.[1]
Wedi iddo ymuno â chyfadran Prifysgol Columbia, teithiodd Wallerstein yn ôl i Affrica sawl tro i wneud gwaith ymchwil ar gyfer ei lyfrau Africa: The Politics of Independence (1961) ac Africa: The Politics of Unity (1967). Yn sgil protestiadau gan fyfyrwyr Columbia yn 1968, ysgrifennodd Wallerstein y llyfr University in Turmoil: The Politics of Change (1969). Yn 1974, cyhoeddodd y gyfrol gyntaf mewn cyfres ar bwnc systemau byd.
Yn 1971 symudodd Wallerstein i weithio ym Mhrifysgol McGill, Montréal, ac yn 1976 fe'i penodwyd yn athro arbennig cymdeithaseg yn Mhrifysgol Daleithiol Efrog Newydd yn Binghamton. Bu'n gymrawd ymchwil uwch ym Mhrifysgol Yale o 2000 hyd ei farwolaeth. Cyhoeddodd 500 o negeseuon blog yn rheolaidd ar ei wefan. Priododd â Beatrice Friedman yn 1964, a chawsant un ferch, Katharine. Bu farw yn ei gartref yn Branford, Connecticut, yn 88 oed.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Africa: The Politics of Independence (1961).
- Africa: The Politics of Unity (1967).
- University in Turmoil: The Politics of Change (1969).
- The Modern World-System I: Capitalist Agriculture and the Origins of the European World-Economy in the Sixteenth Century (1974).
- The Modern World-System II: Mercantilism and the Consolidation of the European World-Economy, 1600-1750 (1980).
- The Modern World-System III: The Second Great Expansion of the Capitalist World-Economy, 1730-1840's (1989).
- Unthinking Social Science (1991).
- After Liberalism (1995).
- The End of the World as We Know It: Social Science for the 21st Century (1999).
- The Decline of American Power (2003).
- The Uncertainties of Knowledge (2004).
- The Modern World-System IV: Centrist Liberalism Triumphant, 1789–1914 (2011).
Cyfeiriadau
golygu- 1 2 (Saesneg) Neil Genzlinger, "Immanuel Wallerstein, Sociologist With Global View, Dies at 88", The New York Times (10 Medi 2019). Adalwyd ar 10 Ionawr 2020.
Darllen pellach
golygu- David Palumbo-Liu, Bruce Robbins, a Nirvana Tanoukhi (goln), Immanuel Wallerstein and the Problem of the World: System, Scale, Culture (Durham, Gogledd Carolina: Duke University Press, 2011).