Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau
Asiantaeth i orfodi'r gyfraith ffederal yn Unol Daleithiau America yw Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Secret Service, USSS) sydd yn rhan o Adran Ddiogelwch Cartref yr Unol Daleithiau. Ei prif swyddogaeth hanesyddol, ers ei sefydlu fel rhan o Adran y Trysorlys ym 1865, oedd archwilio ffugio arian bath. Ehangodd ei ddyletswyddau i gynnwys troseddau ffederal ariannol eraill, megis smyglo, moddion anghyfreithlon o gludo a gwerthu nwyddau, a thwyll post. Wedi llofruddiaeth yr Arlywydd William McKinley ym 1901, daeth y Gwasanaeth Cudd hefyd yn gyfrifol am warchod prif wleidyddion a swyddogion llywodraethol y wlad, eu teuluoedd, a phennau gwladwriaethol a llywodraethol sy'n ymweld â'r Unol Daleithiau. Yn sgil sefydlu'r FBI ym 1908, collodd y Gwasanaeth Cudd ei awdurdodaeth dros nifer o droseddau ariannol, ond parhaodd yn gyfrifol am archwilio tor-cyfraith sy'n ymwneud â'r sector cyllidol a'r banciau. Trosglwyddwydd yr asiantaeth o Adran y Trysorlys i'r Adran Ddiogelwch Cartref yn 2003.[1]
![]() Sêl Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau | |
| Enghraifft o: | federal law enforcement agency of the United States, asiantaeth arbenigol sy'n gorfodi'r gyfraith, secret service |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 5 Gorffennaf 1865 |
| Pennaeth y sefydliad | Director of the United States Secret Service |
| Gweithwyr | 4,500 |
| Rhiant sefydliad | United States Department of Homeland Security |
| Pencadlys | Washington |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Gwefan | https://www.secretservice.gov/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0fynw |
| Quora | United-states-secret-service |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) U.S. Secret Service. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Gorffennaf 2024.
