Gore-Tex
Mae Gore-Tex (GTX) yn ffabrig gwrth-ddŵr, sy'n galluogi'r corff 'anadlu'. Mae wedi'i wneud o ePTFE, sef Teflon estynedig (polymer synthetig sy'n perthyn i'r cyfansoddion PFAS). Gellir lamineiddio Gore-Tex i decstilau ac mae'n ffurfio bilen sy'n blocio dŵr ar ffurf hylif, ond yn caniatáu i anwedd dŵr basio drwyddo. Mae'r graddau y mae hyn yn digwydd yn dibynnu ar y math o Gore-Tex.[1] Darganfuwyd y sylwedd ar hap ym 1969 gan Bob Gore (1912–1986). Mae'r sylwedd a'r patentau ar ei gyfer wedi'u lleoli yn y cwmni WL Gore & Associates, cwmni o'r Unol Daleithiau a sefydlwyd ym 1958.
| Enghraifft o: | nod masnach, brand |
|---|---|
| Math | deunydd dwrglos |
| Deunydd | expanded PTFE |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Dechrau/Sefydlu | 1969 |
| Perchennog | W. L. Gore & Associates |
| Cynnyrch | rainwear |
| Gwefan | https://www.gore-tex.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01kmt6 |
| Quora | Gore-tex |


Fel yr enwau "Lycra" a "Hŵfer", mae "Gore-Tex" wedi ehangu ei ystyr o enw masnach i ddod yn enw generig ar ddilledyn neu offer o fath tebyg.
Hanes
golyguRoedd darganfyddiad Gore-Tex ar hap. Gofynnodd tad Bob Gore, Bill, i Bob wneud math newydd o dâp dwylleth (duct tape). Fe wnaethant ddefnyddio PTFE (PolyTetraFluorEthylene) neu Teflon. Defnyddiwyd y plastig hwn yn flaenorol i inswleiddio offer electroneg. Canfu Bob fod stribed wedi'i gynhesu o PTFE yn ymestyn i wyth gwaith ei hyd gwreiddiol. Darganfuwyd y ffabrig drwy gamgymeriad wrth i Bob yn hytrach nag ymestyn y deunydd wedi'i gynhesu'n araf, rhoi tyniad sydyn, cyflymach a darganfod yr effaith annisgwyl.[2] Ymestynnodd y PTFE solet tua 800% yn annisgwyl, gan ffurfio strwythur microfandyllog a oedd tua 70% o aer.[3] Nid oedd y ffilm estynedig o PTFE yn torri, trodd allan i fod yn mandyllog ac yn ffurfio deunydd cryf. Gelwir y deunydd hwn bellach yn 'Gore-Tex'.
Cafodd Gore-Tex ei freinleni ym 1976. Mae'r prif batent wedi dod i ben ond mae nifer o gynhyrchion â phriodweddau tebyg sy'n defnyddio'r un dechnoleg. Fel nifer o dechnolegau patent eraill fel neilon, mae Gore-Tex yn dod yn derm generig ar gyfer tecstilau ac esgidiau gwrth-ddŵr ac anadl-adwy.
Nodwedd
golyguMae Gore-Tex yn caniatáu i O2 basio drwodd, ond nid yw carbon deuocsid nac nitrogen yn gallu gwneud hynny. O ganlyniad, mae'n 'anadlu' ac yn athreiddiol - gan ganiatáu i'r 21% o aer sy'n ocsigen basio trwy'r bilen — tra'n parhau i gadw dŵr allan. Mae dŵr glaw a dyddodion niwl yn cael eu cadw allan heb i'r gwisgwr deimlo'n oerwlyb. Defnyddir y deunydd yn bennaf wrth gynhyrchu dillad cynnes, gwrth-ddŵr sy'n gallu anadlu. Mae'r rhain yn cynnwys dillad hamdden a chwaraeon fel dillad glaw, mynydda, beic modur a hwylio. Mae brandiau fel The North Face yn defnyddio Gore-Tex ar gyfer eu siacedi.
Deunydd arall y mae'r cwmni wedi'i ryddhau yw Windstopper. Nid yw'r deunydd hwn yn dal dŵr ond yn anadlu, ac felly fe'i defnyddir ar gyfer cynhyrchu dillad isaf thermol a dilledyn cnu modern gwrth-wynt.
Mae gan athreiddedd lleithder Gore-tex a Windstopper derfynau: os yw'r gwisgwr yn chwysu llawer oherwydd ymdrech, ni ellir tynnu'r holl leithder a bydd y gwisgwr yn dal i fod yn wlyb. Fodd bynnag, nid yw'r lleithder ar y tu mewn i'r dillad yn achosi oeri gan nad yw'n anweddu.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Les membranes et enductions imper-respirantes". www.randonner-leger.org. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2025.
- ↑ KooDe (6 Ionawr 2024). "Мембрана Gore-Tex". Topical in Ukraine (yn Wcreineg). Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Robert W. Gore". Science History Institute. 29 Mehefin 2016. Cyrchwyd 20 Mawrth 2018.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Gore-Tex
- Inside GORE-TEX: What It Is, How It Works, and Why It Lasts Fideo gyflwyno, 2025