Geri Allen
Pianydd a chyfansoddwraig jazz o'r Unol Daleithiau oedd Geri Allen (12 Mehefin 1957 – 27 Mehefin 2017).[1]
| Geri Allen | |
|---|---|
![]() | |
| Ffugenw | Geri Allen-Roney |
| Ganwyd | Geri Antoinette Allen 12 Mehefin 1957 Pontiac |
| Bu farw | 27 Mehefin 2017 o canser Philadelphia |
| Label recordio | Motéma Music |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | jazz pianist, athro cerdd, academydd, cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr, artist recordio, pianydd, cerddor jazz, athro, cerddor |
| Cyflogwr |
|
| Arddull | jazz, bebop |
| Priod | Wallace Roney |
| Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
| Gwefan | http://www.geriallen.com |
Ganwyd Allen ym Mhontiac, Michigan, ond fe'i magwyd yn Netroit[2]. Daeth i'r amlwg fel perfformiwr yn ystod yr 1980au fel rhan o'r mudiad M-Base, arddull oedd yn cyfuno elfennau o jazz rhydd gyda cherddoriaeth hip-hop. Roedd Allen yn ymwneud â jazz rhydd drwy gydol ei gyrfa - fe'i clywyd ar nifer o recordiau hwyr Ornette Coleman - heb erioed gamu'n llawn i'r maes hwnnw yn ei recordiau ei hun. Roedd ei harddull bersonol yn y 90au yn cyfuno elfennau rhydd gyda dylanwadau o gerddoriaeth glasurol.
Yn ogystal â bod yn berfformiwr pwysig, enillodd Allen glod fel addysgwraig. Bu'n Athro mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Pittsburgh, ac yn gyfarwyddwr ar y rhaglen Astudiaethau Jazz yno.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Fordham, John (3 Gorffennaf 2017). "Geri Allen Obituary". The Guardian (yn Saesneg).
- ↑ Cook, Richard (2005). Richard Cook's Jazz Encyclopedia. Llundain: Penguin Books. tt. 8. ISBN 0-141-00646-3.
- ↑ Adlet, David R. (27 Mehefin 2017). "Geri Allen, Brilliantly Expressive Pianist, Composer and Educator, Dies at 60". WGBO. Cyrchwyd 27 Mehefin 2017.
