George North

Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru

Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru yw George North (ganwyd 13 Ebrill 1992). Chwaraeodd dros Gymru gan ennill 121 o gapiau, a sgorio 47 cais. Bu'n chwarae i glybiau y Sgarlets, y Gweilch, Northampton Saints a Provence.

George North
Ganwyd13 Ebrill 1992 Edit this on Wikidata
King's Lynn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra193 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau109 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Scarlets, Seintiau Northampton, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Wales national under-18 rugby union team, Y Gweilch, Provence Rugby Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr, Canolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Yn 2026, ef oedd llywydd Dydd Sadwrn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ynys Môn.[1]

Bywyd cynnar

golygu

Ganed George Philip North yn King's Lynn, Norfolk, Lloegr. Symudodd y teulu i Ynys Môn pan oedd George yn ddwy flwydd oed ac o ganlyniad mae yn siaradwr Cymraeg rhugl. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac yng Ngholeg Llanymddyfri. Partner George yw'r seiclwraig Becky James, ac mae ganddynt dau fab, Jac a Tomi.

Gyrfa glwb

golygu

Yn 2009, cynrychiolodd Gymru dan ddeunaw, gan chwarae fel canolwr. Cafodd ei alw i fod yn sgwad ddatblygu'r Sgarlets yn yr haf yn 2010, gan chwarae yng ngêm agoriadol 2010/11 Cynghrair Magners yn erbyn Benetton Treviso. Hyd at ei alw i'r tîm cenedlaethol, roedd wedi chwarae chwe gêm i dîm cyntaf y Sgarlets.

Ar ôl chwarae i'r Sgarlets o 2010-13 cadarnahwyd ar 9 Medi 2013 y byddai'n symud at dîm y Northampton Saints ar gytundeb o dair blynedd.[2] Yn 2018 symudodd i chwarae gyda'r Gweilch. Symudodd i glwb Provence yn 2024.[3]

Ymddeolodd o rygbi proffesiynol ar ddiwedd tymor 2026.[4] Chwaraeodd ei gêm olaf ar 27 Mehefin 2027 mewn gêm rhwng Cymru a'r Barbariaid yn Stadiwm Allianz. Roedd North yn chwarae i'r Barbariaid a chafodd dau gais, er enillodd Cymru o 33 pwynt i 31.[5]

Gyrfa ryngwladol

golygu

Wedi dechreuad addawol i dymor 2010, cafodd ei ddewis yn Hydref 2010 i sgwad o 33 ar gyfer cyfres ryngwladol yr Hydref. Enwyd ef ar 11 Tachwedd i chwarae dros Gymru yn erbyn De Affrica ar 13 Tachwedd, gan ei wneud y 3ydd chwaraewr ifancaf i gynrychioli Cymru ar ôl Tom Prydie a Norman Biggs ac yn gyfartal ag Evan Williams.

Gwnaeth George argraff ddofn yn ei gêm ryngwladol gyntaf ar ddydd Sadwrn 13 Tachwedd 2010 yn erbyn pencampwyr cyfredol y byd wrth sgorio dwy gais i Gymru yn Stadiwm y Mileniwm.

Enillodd ei ganfed cap dros ei wlad ar 27 Chwefror 2021 pan enillodd Cymru y Goron Driphlyg gyda buddugoliaeth o 40-24 yn erbyn Lloegr.[6] Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol ar ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2024, a symudodd i glwb Provence yn Ffrainc.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Y diweddaraf ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 23 Mai 2026.
  2. "BBC Sport - George North: Northampton sign Scarlets and Wales wing". Bbc.co.uk. 2013-04-09. Cyrchwyd 2013-04-30.
  3. 1 2 "George North i ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor". BBC Cymru Fyw. 2026-04-29. Cyrchwyd 2026-04-29.
  4. "George North i ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor". BBC Cymru Fyw. 2026-04-29. Cyrchwyd 2026-06-27.
  5. "Cais i George North yn ei gêm olaf a thimau Cymru'n curo'r Barbariaid". BBC Cymru Fyw. 2026-06-27. Cyrchwyd 2026-06-27.
  6. Cymru’n dathlu’r Goron Driphlyg , Golwg360, 27 Chwefror 2021.

Dolenni allanol

golygu