Entrez
Peiriant chwilio ar gyfer cronfeydd data biofeddygol yw Entrez. Mae'n cynnwys ystod eang o wybodaeth yn y maes biofeddygol. Mae Entrez yn cael ei gydlynu gan Ganolfan Genedlaethol Gwybodaeth Biotechnoleg yr Unol Daleithiau (United States National Center for Biotechnology Information, NCBI), rhan o'r Llyfrgell Feddygaeth Genedlaethol (National Library of Medicine, NLM), sy'n adran o'r Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol (National Institutes of Health, NIH).
| Enghraifft o: | cronfa ddata ar-lein, cronfa ddata fiolegol |
|---|---|
| Iaith | Saesneg |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Gwefan | http://www.ncbi.nlm.nih.gov/gquery/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02pzgk |
| Quora | Entrez |
Bwriad yr enw "Entrez" (cyfarchiad sy'n golygu "Dewch i mewn" yn Ffrangeg) oedd dangos bod croeso i'r cyhoedd chwilio cynnwys y system.