David Roberts (Dewi Ogwen)
Roedd David Roberts (Dewi Ogwen) (19 Ebrill 1818 – 5 Medi 1897) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn fardd, yn newyddiadurwr ac yn awdur Cymreig.
| David Roberts | |
|---|---|
| Ffugenw | Dewi Ogwen |
| Ganwyd | 19 Ebrill 1818 Bangor |
| Bu farw | 5 Medi 1897 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | clerig, gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr, bardd, bardd |
| Swydd | cadeirydd |
Cefndir
golyguGanwyd Dewi Ogwen ym Mangor, y pedwerydd o ddeg plentyn y Parch Dafydd Roberts, gweinidog MC ac Elizabeth (née Jones) ei wraig. Roedd ei fam yn ddisgynnydd i'r bardd Angharad James ac yn gyfnither i John Jones, Talysarn a'i frodyr enwog.[1] Fe'i haddysgwyd yn un o ysgolion Dr Daniel Williams ym Mangor o dan Dr Arthur Jones. Gan fod Arthur Jones yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn ogystal ag athro, derbyniwyd Dewi Ogwen yn aelod o enwad ei athro. Ym 1887 derbyniodd radd DD gan Brifysgol Oxford, Miami, Ohio. [2]
Gyrfa
golyguAr ôl gorffen ei dymor yn yr ysgol aeth Dewi Ogwen yn brentis argraffydd yn swyddfa papur newydd Saesneg Bangor. Ym 1836 bu yn wael ei iechyd, a chynghorwyd ef i ymadael â'r ddinas er mwyn newid hinsawdd. Gan nad oedd yn ddigon cefnog i fynd am wyliau i dref ffynnon neu lan y môr aeth yn gwmpeini i John Henry Hughes (Ieuan o Leyn) ar daith bregethu trwy Gymru. Fe fu yn cychwyn yr oedfaon cyn i Ieuan o Leyn pregethu. Wrth ymweld â Dolwyddelan tua diwedd y daith anogodd perthnasau iddo roi pregeth hefyd. Roedd yn disgwyl cerydd gan ei enwad am bregethu heb awdurdod, yn lle hynny cafodd gennad i barhau â'r gwaith gan Dr Arthur Jones. Dechreuodd bregethu yn rheolaidd a phenderfynodd wneud cais i hyfforddi ar gyfer y Weinidogaeth yn Athrofa Hackney. Cyn cychwyn ar ei hyfforddiant cafodd alwad i fod yn weinidog ar gapeli Siloh a Seion yn ardal Llanfechell ym Môn. Cafodd ei ordeinio yn Siloh 6ed Mai 1839. [3]
Ym 1842 derbyniodd alwad i un o gapeli Cymraeg Manceinion, lle y bu am dair blynedd cyn dychwelyd i Fôn i weinidogaethu annibynwyr Cemaes ym 1845. Ym 1850 olynodd Caledfryn fel gweinidog Capel Pendref, Caernarfon. Ymadawodd a Chaernarfon ym 1870 er mwyn mynd ar daith bregethu trwy'r Unol Daleithiau. Wedi dychwelyd o'i daith aeth yn weinidog Capel Ebeneser, Queen Street, Wrecsam, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth.[4]
Ym 1879-80 gwasanaethodd fel Cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig.[5]
Cafodd ei urddo yn aelod o orsedd y beirdd yn eisteddfod Caernarfon 1862. Cyhoeddwyd llawer o'i gerddi yn y cylchgronau Cymreig yn bennaf yn y Geninen.
Bu yn olygydd misolyn o'r enw "Yr Ardd" rhwng 1865 a 1869. Roedd yn emynydd a bu'n un o olygyddion llyfr emynau ei enwad "'Y Caniedydd Cynulleidfaol". Cyhoeddodd dair cyfrol o bregethau un yn Saesneg a dwy yn y Gymraeg.
Dechreuodd Robert Thomas (Scorpion) ysgrifennu cofiant i Gwilym Hiraethog, ond bu farw cyn darfod y gwaith. Gorffennwyd y llyfr gan Dewi Ogwen.[6]. Golygodd dalfyriad Cymraeg o lyfr Harriet Beecher Stowe Uncle Tom's Cabin i wasg Hugh Humphreys, Caernarfon.[7]
Teulu
golyguPriododd ag Ann Williams. Bu iddynt ddwy ferch
Marwolaeth
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Williams, R Peris (1897-10-15). Edwards, Owen Morgan. ed. "Dr Roberts, Gwrecsam". Cymru 13: 173-177.
- ↑ Palmer, Alfred Neobard (1893). History of the Town of Wrexham Cyf 4. Werecsam: Woodall. t. 87
- ↑ "Urddiad D Roberts gynt o Fangor yn Esgob yr Eglwysi yn Siloh a Seion". Y Dysgedydd Crefyddol Cyf. XVIII rhif. 212: 28. Gorffennaf 1839. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2325605/2332406/25#.
- ↑ Y Diweddar Dewi Ogwen Y Drych 23 Medi 1897
- ↑ "Dewi Ogwen Wedi Marw". The London Kelt: 4. 11-09-1897. https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3103894/3103898#.
- ↑ Roberts, T; Roberts, David (1893). Cofiant y Parch. W. Rees, D.D. (Gwilym Hiraethog). OCLC 16293090.
- ↑ Bibliographical notes yn Journal of the Welsh Bibliographical Society Cyf. 2, rhif. 3, Rhagfyr 1918
- ↑ "Cofgolofn Dewi Ogwen". Yr Wythnos a'r Eryr. 17 Ebrill 1901.