Daniel James (pêl-droediwr)
Pêl-droediwr proffesiynol yw Daniel Owen James (ganwyd 10 Tachwedd 1997) sy'n chwarae fel asgellwr i Fulham, ar fenthyg o Leeds United a thîm cenedlaethol Cymru. Gall James chwarae fel asgellwr, a hefyd fel chwaraewr canol cae ymosodol.[3]
James yn 2025 | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Dyddiad geni | 10 Tachwedd 1997[1] | ||
| Man geni | Kingston upon Hull, Lloegr | ||
| Taldra | 5 troedfedd 7 modfeddi (1.70 m)[2] | ||
| Safle | Asgellwr | ||
| Y Clwb | |||
| Clwb presennol | Leeds United | ||
| Rhif | 7 | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| 2006–2014 | Hull City | ||
| 2014–2016 | Dinas Abertawe dan 25 | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2018–2019 | Dinas Abertawe | 33 | (4) |
| 2017 | → Shrewsbury Town (loan) | 0 | (0) |
| 2019–2021 | Manchester United | 50 | (6) |
| 2021– | Leeds United | 113 | (29) |
| 2022–2023 | → Fulham (ar fenthyg) | 20 | (2) |
| Tîm Cenedlaethol‡ | |||
| 2013–2015 | Cymru dan 17 | 8 | (2) |
| 2015–2016 | Cymru dan 19 | 8 | (1) |
| 2017 | Cymru dan 20 | 3 | (1) |
| 2016–2018 | Cymru dan 21 | 11 | (0) |
| 2018– | Cymru | 62 | (10) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 17:18, 19 Ebrill 2025 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf i Ddinas Abertawe ym mis Chwefror 2018 a'i ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd 2018. Roedd eisoes wedi cynrychioli Cymru ar wahanol lefelau ieuenctid. Sgoriodd ei gôl gyntaf i Gymru yn erbyn Slofacia ar 24 Mawrth 2019 mewn gêm ragbrofol Ewro 2020 a enillodd Cymru 1-0.
Wedi cyfnod addawol iawn gydag Academi Dinas Hull, ymunodd James â Dinas Abertawe yn 2014 am ffi gychwynnol o £72,000,[4] gan ymuno'n syth â'r academi dan-18. Erbyn tymor 2016-17, roedd James wedi dod yn rhan annatod o'r tîm dan-23 Abertawe a enillodd ddyrchafiad i Adran Gyntaf PDL wedi iddynt ennill y gynghrair o 11 pwynt. Yn ogystal â hynny, bu James yn aelod o'r tîm a enillodd gwpan yr Uwch Gynghrair, gan gyrraedd rowndiau cynderfynol Cwpan Rhyngwladol yr Uwch Gynghrair a rowndiau go-gyn-derfynol Tlws EFL.
Yn dilyn perffomiadau disglair yn y garfan ddatblygu,[5] cafodd James ei gynnwys yng ngharfan y tîm cyntaf am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2016 pan trechwyd Abertawe yng Nghwpan yr FA gan Oxford United.[6] Er na ddaeth James oddi ar y fainc, ystyriwyd bod ei gynnydd yn ddigonol iddo gael cynnig cytundeb newydd am dair blynedd yr wythnos ganlynol.[7] Cafodd ei enwi ar y fainc ym mis Hydref 2016 mewn gêm Uwch Gynghrair yn erbyn Stoke City.[3]
Ar 30 Mehefin 2017, ymunodd James â chlwb Shrewsbury Town ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.[8] Cafodd ei gytundeb ei derfynu drwy gydsyniad ar 31 Awst 2017 ar ôl iddo fethu â chael lle yn yr 11 cyntaf.[9] Unwaith yn unig y cafodd James ei gynnwys mewn carfan diwrnod gêm, a hynny fel eilydd na chafodd ei ddefnyddio mewn gêm gwpan rownd gyntaf Cwpan EFL yn erbyn Nottingham Forest.[10]
Ar 6 Chwefror 2018, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm Abertawe fel eilydd hwyr, a sgoriodd ar ôl 82 o funudau mewn buddugoliaeth o 8–1 dros Notts County yng Nghwpan FA.[11]
Chwaraeodd ei gêm gynghrair gyntaf dros Abertawe ar 17 Awst 2018 mewn gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Birmingham City ym Mhencampwriaeth EFL.[12] Sgoriodd ei gôl gynghrair gyntaf i'r clwb ar 24 Tachwedd 2018 mewn buddugoliaeth gartref o 4–1 yn erbyn Norwich City.[13] Erbyn mis Rhagfyr 2018, roedd James yn chwaraewr oedd yn disgleirio'n gyson i Abertawe,[14] a chyhoeddodd y rheolwr, Graham Potter, fod y clwb yn bwriadu dechrau trafodaethau am gytundeb newydd.[15] Er gwaethaf sôn am symud i Leeds United yn ystod ffenestr drosglwyddo Ionawr 2019,[16][17] enwyd James yn nhîm Abertawe oedd yn cychwyn y gêm yn erbyn Birmingham City ar 29 Ionawr, a sgoriodd ei ail gôl o'r tymor mewn gêm gyfartal 3– 3.[18]
Ar 31 Ionawr 2019, gyda James wedi mynegi ei ddymuniad i adael Abertawe i ymuno â Leeds United, cytunwyd ar ffi strwythuredig o £10 miliwn rhwng y ddau glwb, cytunodd James ar delerau a chymryd y profion meddygol yn Leeds,[19] ac roedd yn Elland Road yn cael cyfweliadau a'i lluniau wedi'u tynnu cyn i'r cytundeb gael ei gymeradwyo.[20] Fodd bynnag, ar ôl sôn am anghytundeb rhwng perchnogion Abertawe a'u cadeirydd, gadawyd James yn Elland Road yn disgwyl i'r cytundeb gael ei lofnodi pan gaeodd y ffenestr drosglwyddo am 11pm.[21]
Manchester United
golyguAr 6 Mehefin 2019 cafodd James brofion meddygol gyda chlwb Manchester United ar gyfer ei drosglwyddiad am ffi o £15m gyda rhai ychwanegiadau.[22] Ar 7 Mehefin, cyhoeddodd United eu bod wedi cytuno ar delerau 'mewn egwyddor' gydag Abertawe.[23]
Gyrfa ryngwladol
golyguYn enedigol o Swydd Efrog, Lloegr, mae James yn gymwys i chwarae dros Gymru trwy ei dad, Kavan,[24] a aned yn Aberdâr.[5] Sgoriodd James dros dîm dan-20 Cymru mewn buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Bahrain U20 yn Nhwrnamaint Toulon.[25]
Cafodd James ei alwad gyntaf i chwarae dros dîm cyntaf Cymru ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan FIFA y Byd 2018 yn erbyn Serbia yn 2017[12] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghymru dan Ryan Giggs mewn gêm yn erbyn Albania ym mis Tachwedd 2018, gan chwarae 58 munud cyntaf y gêm.[26] Sgoriodd James ei gôl gyntaf dros Gymru yn ei ail gêm, gan rwydo'r unig gôl yn y gemau agoriadol yn erbyn Slofacia. Hwnnw oedd ei ymddangosiad cyntaf mewn gêm gartref gystadleuol.[27]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Daniel James: Overview". Premier League. Cyrchwyd 12 June 2019.
- ↑ "James, Daniel Owen James - Footballer | BDFutbol". www.bdfutbol.com. Cyrchwyd 2025-07-25.
- ↑ 3.0 3.1 Booth, Dominic (1 Tachwedd 2016). "Who is Daniel James? What you need to know about the exciting Swansea City teenager who made the bench at Stoke City". walesonline.
- ↑ "Highly-rated Hull City youngster Dan James 'lost' to Swansea City for £72,000". Hull Daily Mail. 25 Mehefin 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2015. Cyrchwyd 9 Mehefin 2017. Unknown parameter
|deadurl=ignored (help) - ↑ 5.0 5.1 "Daniel James – Official Website of the Swans – Swansea City AFC latest news, photos and videos". www.swanseacity.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-10. Cyrchwyd 2019-06-07.
- ↑ Higginson, Marc (10 Ionawr 2016). "Oxford United 3–2 Swansea City". BBC Sport. Cyrchwyd 7 Chwefror 2018.
- ↑ "Swans U21s' Keston Davies and Daniel James sign new contracts". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mai 2017. Cyrchwyd 9 Mehefin 2017. Unknown parameter
|deadurl=ignored (help) - ↑ "Daniel James: Swansea City winger joins Shrewsbury Town on season-long loan". BBC Sport. 30 Mehefin 2017. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2017. after he failed to make a match-day squad in the league or cup during his time at the club.
- ↑ "Dan James returns to Swansea". www.shrewsburytown.com.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/sport/football/40785845
- ↑ Pritchard, Dafydd (6 Chwefror 2018). "Swansea City 8–1 Notts County". BBC Sport. Cyrchwyd 7 Chwefror 2018.
- ↑ 12.0 12.1 "Daniel James". www.swanseacity.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-10. Cyrchwyd 2019-06-07.
- ↑ "Daniel James – Football Stats – Swansea City U21 – Age 21 – Soccer Base". www.soccerbase.com.
- ↑ Coleman, Tom (4 Tachwedd 2018). "The heartwarming moment Swansea City star Daniel James is given an early birthday surpriseCity". walesonline.
- ↑ "Daniel James: Swansea City open to talks with Wales winger over new deal". BBC Sport. 21 Rhagfyr 2018.
- ↑ "Daniel James: Leeds United link 'just rumours' says Swansea City winger". BBC Sport. 20 Ionawr 2019.
- ↑ "Leeds United's fight to sign Daniel James heading for the wire as transfer deadline looms". YEP. 30 Ionawr 2019.
- ↑ "Swansea 3 Birmingham 3". BBC Sport. 30 Ionawr 2019.
- ↑ "Daniel James undergoing Leeds United medical after club agree deal with Swansea City". YEP. 31 Ionawr 2019.
- ↑ "Leeds United Deal for Dan James Collapses". Yorkshire Post. 31 Ionawr 2019.
- ↑ "Leeds furious after Swansea pull plug on £10m Daniel James deal in final minutes of deadline day". The Telegraph. 31 Ionawr 2019.
- ↑ "Daniel James completes Manchester United medical". Sky Sports.
- ↑ "Confirmed: Man Utd agree deal in principle to sign Daniel James". www.manutd.com.
- ↑ "Daniel James: Swansea winger withdraws from Wales camp after father's death". BBC Sport. 23 Mai 2019. Cyrchwyd 23 Mai 2019.
- ↑ Gwilym, Andrew (2 Mehefin 2017). "Wales in knock-out hunt after Bahrain victory". walesonline.
- ↑ "Dan's Wales pride – Swansea City FC". www.swanseacity.com.
- ↑ "Wales up and running after Daniel James' early strike sinks Slovakia". www.theguardian.com.