Dafydd Dywysog

drama lwyfan gan R. Bryn Williams (1975)

Drama lwyfan "farddonol" pedair act am Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ein Llyw Olaf ac ŵyr i Llywelyn Fawr ydi Dafydd Dywysog a gyfansoddwyd gan R. Bryn Williams, a'i chyhoeddi ym 1975. Mae'r ddrama'n digwydd rhwng Rhagfyr 1282 [y dydd y lladdwyd ei frawd Llywelyn] a Mehefin 1283, pan gafodd Dafydd ei gaethiwo a'i ddienyddio gan Edward I.[1] Ymysg y cymeriadau mae Elizabeth Ferrers, Rhys Mechyll, Einion ap Ifor a Gruffudd ab yr Ynad Coch.[1] Mae'r ddrama Y Llyw Olaf o waith Urien Wiliam a ddaeth yn fuddugol yn nghystadleuaeth Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 1972, a'i chyhoeddi ym 1975, yn ymdrin â'r un cymeriadau a'r cyfnod.

Dafydd Dywysog
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurRichard Bryn Williams Edit this on Wikidata
CyhoeddwrChristopher Davies Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1975 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaDafydd ap Gruffudd, Senana, Elizabeth Ferrers, Einion I, Gruffudd ab yr Ynad Coch Edit this on Wikidata
Tudalennau57 Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cymeriadau

golygu

Cynnwys

golygu

Yng Nghastell Dolwyddelan yn Rhagfyr 1282, mae Rhys Mechyll yn cael ei groesawu i'r castell gan 'Senena' [mam Dafydd ap Gruffudd a Llywelyn ap Gruffudd (y Llyw Olaf)], "lle mae croeso i ffyddloniaid cad". Daw'r Offeiriad atynt, a chyhoedda Mechyll bod y "Gorllewin yn nwylo fy meibion, / Ac mae'r Ddraig yn fflam drwy'r De. [...] Ac mae cyrch sicr Llywelyn / Hyd at lannau Irfon". Mae'r Offeiriad yn poeni bod y brenin Edward yn Rhuddlan, "gan guro ar ddôr Eryri", ond ceisia Mechyll ei gysuro bod Dafydd [ap Gruffudd] "a'i ffyddlonaf wŷr" yn "gwarchod" y ddôr.[1]

Nid yw'r Offeiriad yn hapus bod Dafydd wedi cynnau "fflam gwrthryfel" ar Sul y Blodau [21 Mawrth 1282] ym Mhenarlâg, gan ddechrau'r rhyfel a roes derfyn ar deyrnas Gwynedd. Canmolir Dafydd gan Mechyll fel "Gwir fab ei dad; Gruffydd ab Llywelyn", ac fe'n hatgoffir o "faich ei gadwynau" a'r "camwri" trwm y bu trwyddi.[1]

Ymuna Dafydd â'r ymddiddan, wedi bod yn "hela bychod ar Foel Siabod", a chawn wybod nad yw'r hapus o fod wedi gorfod priodi "Elisabeth Ferrers, merch fy ngelyn: / Rhodd digrifwch brenin Lloegr. / Estrones yn fy mywyd" gyda'i fam yn ei atgoffa ei bod hi'n "[f]am dy ddeufab: / Un yn sugno'i bronnau. / A'r llall yn simsanu cerdded yn ei llaw". Ond fel "Fy ngwraig wleidyddol!" y disgrifia Dafydd hi, "Llugoer ei threm fel Lloegr ei thras". Nid yw Dafydd yn hapus gyda "Rhyw gongl o Lŷn na chynhaliai lys" [Cymydmaen] am bod ei "ddeufrawd" wedi "crafangu" ei "etifeddiaeth".[1]

Mae'r Offeiriad eto'n cyfeirio at wrthryfel Sul y Blodau, ac fe etyb Dafydd mai "Rhaid oedd taro" gan mai "Byddar oedd Edward. / Ni wrendy'r Sais ond ar lais terfysg".[1]

"Mae'r Ddraig ar dŵr Rhuthin

A'r gwynt yn ei chyhwfan ar Ddinas Brân.

Cododd Gwynedd o gwsg ar alwad ein,

utgyrn,

Atseiniodd dros y mynyddoedd,

Ac mae Cymru'n deffro."[1]

Ond fe rybuddia'r Offeiriad mai "Gwell yw cyfreithio nag ymladd, / Gwell yw cyfaddawd na thywallt gwaed", ond dadleua Dafydd nad oes diben apelio at lys, "lle bo'r gormeswr yn farnwr".

"Greddf gŵr yw ymladd.

Adrodd di dy baderau, fynach.

Cilia i'th seintwar,

Costrela ddagrau merched galar.

Minnau a warchodaf â'r cledd

Gaer dy dangnefedd".[1]

Torrir ar draws yr ymddiddan gan "sain utgorn a sŵn carnau" wrth i filwyr "llipa yn eu llesgedd" Llywelyn ddychwelyd, gydag Einion ap Ifor yn cyhoeddi bod Llywelyn wedi cael ei "fradychu" trwy ei dwyllo a'i "wahodd i gyngrair". Cyhoedda bod gwas wedi dychwelyd "â gwae yn ei lais: / "Yng Nghilmeri / Lladdwyd Llywelyn, / Tywysog Cymru"". Gorffennir yr act wrth i Senena alaru, Rhys Mechyll "i drefnu dialedd i'w lofruddion" a Dafydd yn cyhoeddi:

"Cymru, fy ngwlad,

Dy glwyfau yw fy ngofid... [...]

Minnau a amddiffynnaf gaer dy fynyddoedd...

Gwae am Llywelyn...

Af ar fy llw, er llorio fy Llyw,

Daw awr dialedd ar dy elynion".[1]

Digwydd yr ail act "yr un noson" yn "Neuadd y wledd", wrth i Dafydd dalu teyrnged i'w frawd, Llywelyn a galw ar fardd y Llys ['Gruffydd' [ab yr Ynad Coch]] i fynegu "ein cur drwy hiraeth cerdd".[1] Llafar-gana yntau ei farwnad enwog i Llywelyn : "Oni welwch-chi hynt y gwynt a'r glaw? / Oni welwch-chi'r deri'n ymdaraw?..."[1]

Coronir Dafydd yn "Dywysog Cymru" â "Choron Arthur", ar “Groes Naid” gan dyngu llw o ffyddlondeb i'w wlad, a'i arwisgo "â chleddyf dy deyrnas". Mae Rhys Mechyll yn tynnu llw o ffyddlondeb iddo hefyd, wrth i'r Milwyr uno ac "ail-adrodd y llw". Ond fe darfir ar y dathlu gan ymweliad "cennad" o filwr sy'n cyhoeddi y bydd "Edward, brenin Lloegr" yn Nolwyddelan ymhen "deuddydd". Mae ganddo "fyddin gref", ac fe synna Mechyll a Dafydd bod Edward yn meiddio "ymgyrchu yn y gaeaf".[1] Mae Einion yn awgrymu y dylent "encilio i Eryri, / Ac oedi ei fwriad", ac mae Dafydd yn cytuno mai "doeth yw cilio", gan drefnu i baratoi at y daith y dydd canlynol.

Aeth pedwar mis heibio, ac ar "lawnt Castell y Bere" y cychwyn y drydedd act, yn "Ebrill 1283". Mae Dafydd ac Einion "yn chwarae gwyddbwyll" a defnyddir y gêm yn drosiad cyfleus drwy'r act hon a'r olaf, gan gychwyn gyda Mechyll yn cyhoeddi wrth Dafydd, "Collaist gastell, Dywysog" wrth i yntau ateb, "Bu Einion yn gyfrwys" sy'n awgrym o'r hyn sydd i ddod. Cyhoedda Dafydd ei fod wedi colli Castell Dolwyddelan yn "[f]wriadus", ond ei fod yn teimlo'n fwy saff ym Mro Dysynni. Trafodir y ffaith mai dau gastell sy'n weddil gan Dafydd, sef Bere a Dolbadarn, a bod y brenin Edward wedi bod yn "gyfrwys": "Denodd â'i wên arglwyddi gwlad, / Eu mwytho a'i foethau, / Eu prynu â swydd yn ei senedd, / Eu dallu ag aur a'u twyllo â'i ddysg..."[1]

Mae Mechyll yn gofyn i Gruffydd adrodd y stori am "achub Mabon fab Modron gynt, / Pan aeth Cai a Gwrhyr / Ar ysgwydd Eog Llyn Llyw / I wared gŵr / A gymerwyd yn deirnos oed / O fynwes ei fam." Mae hyn yn atgyfnerthu crêd Dafydd bod yn "rhaid ymladd".

Daw Senena ac Elisabeth atynt, sy'n cyhoeddi bod y "serch" rhyngddi â Dafydd wedi "blodeuo". Ond mae Einion yn dal i bryderu mai "rhyfygus oedd mentro yma". Cenir gwaith "[Hywel] ab Owain Gwynedd / Ei gerdd i hyfrydwch Dysynni", wrth i Dafydd ac Elisabeth a Mechyll a Senena "ddawnsio".[1]

Tarfir ar y ddawns gan ymweliad milwyr, gyda'u cennad "Glaniodd y gelyn ar draeth Tywyn" a bod "Pedair mil ar ddeg o wŷr traed" ar gyrch tuag atynt. Cyhoedda Einion "nad oes yma amddiffyn, Arglwydd". Wedi ystyried yr oblygiadau, mae Dafydd yn datgan "Ciliwn i Eryri, / A gadael y dyffryn hwn yn nwylo'r gelyn / Dros dro." Mae'n gorchymyn i Einion "warchod ein enciliad", ond hefyd i "ildio'r" castell iddynt.[1]

Deufis yn ddiweddarach, yng Nghastell Dolbadarn, mae'r brwydro yn ei anterth "islaw" ac yn "cynyddu yn ystod yr act olaf hon". Mae Elisabeth bellach yn "casau" Lloegr” a'i llys":

"Llys y cwrteisi ffals:

Llys nad oedd ond marchnadfa i serch,

A chnawd merched

Ar werth fel moch mewn ffair [...]

Nid oeddwn ond darn gwyddbwyll

Mewn chwarae gwleidyddol".[1]

Mae Senena hefyd yn gallu uniaethu â'i theimladau, ac mae'r ddwy yn drist bod teyrnas Dafydd wedi "crebachu" i'r "rhandir hwn: / Cwm Eilir, / A'i warchae yn ei gastell olaf, / Yma yn Nolbadarn." Daw'r Offeiriaid atynt, gan geisio eu cysuro, ond "boddwyd fy ngweddi yn sŵn y drin". Mae'n darogan drwg, ac yn gweddio yn Lladin am i Dduw eu gwaredu. Daw Dafydd atynt, "yno'n simsan. Collodd ei helm, y mae ei wallt yn aflêr, ac mae archoll ar ei dâl, a gwaed ar ei wyneb a'i ddwylo", cyn syrthio o'u blaen.

Daw Mechyll atynt, gan gyhoeddi bod "bradwr" ymysg y gŵyr, ac mai dyna sut y bu i'r gelyn eu canfod. Mae ganddo gais gan y gelyn, ac mae Dafydd yn pryderu "bydd greulon ei amodau. / Nid hawdd i'r trechaf dosturio. / Ni thyr ei syched ond â gwaed".[1]

Dychwel Mechyll gyda "swyddog o Sais ac Einion ab Ifor" - "Cenhadon y gelyn". Mae Dafydd wedi synnu bod Einion yn "fradwr", ac fe geisia yntau egluro ei fod wedi'i ddal yng Nghastell y Bere, ac wedi'i garcharu a'i arteithio, ac awgryma Dafydd mai prynu "allwedd dy gell / Â rhyddid dy wlad" wnaeth o. Gwylltia Dafydd, wedi i Einion ei gyhuddo yntau hefyd o fradychu ei frawd, Llywelyn. Etyb Dafydd ei gyhuddiad mai "Gruffydd ab Gwenwynwyn a'i bwriadodd", ond fe fynn Einion bod "Deon Bangor" a "memrwn yng Nghaergaint" ac "Owain Goch" ei frawd, yn nodi "Mai ti [Dafydd] yn unig a drefnodd hynny". Er i Einion fynnu "Bydd crawc haneswyr / Yn atsain dy frad i lawr yr oesoedd", mae Dafydd yn eitha sicr y "cyfyd gŵr a ddargenfydd y gwir".

Mae Einion yn rhoi sicrwydd iddo y bydd ei deulu yn cael eu "gwarchod", cyn belled a'i fod yn ildio.

Gorffenir y ddrama gyda Dafydd yn rhagweld:

"...A chyfyd arwyr:

Dafydd arall i ddeffro'r werin,

Llywelyn arall i'w ffrwydro i'r gad.

Bydd fflam rhyddid yn goelcerth o Wynedd i

Ddyfed.

Ac ar nawfed ton y canrifoedd,

Dychwel y bad o Afallon,

Ac Arthur wedi deffro,

A'r wawr yn ei drem.

Bydd Cymru'n rhydd."

Cyn ei arwain ymaith, mae'r Sais yn "rhwygo'r Groes Naid" o fynwes yr Offeiriad, ac "yn gafael yng nghoron Arthur, a chwardd yn uchel wrth ddwyn y ddau grair ymaith".[1]

Cefndir

golygu

Ar gefn y cyhoeddiad ym 1975, noda'r dramodydd mai cais gan yr ysgolhaig [ifanc] Dr Ralph Maud o'r Unol Daleithiau oedd y ddrama, wedi iddo dreulio cyfnod yn ei gynorthwyo yn y Llyfrgell Genedlaethol yn "ymchwilio [i] hanes [Cymru] a'i llenyddiaeth". Mae'n datgan bod nhw wedi canfod "ffeithiau newydd am Dafydd, brawd ein Llyw Olaf" a'i fod wedi ceisio ei berswadio i "lunio cerdd amdano". Ond "naw mis" yn ddiweddarach, "mynnodd honno fynegiant ar ffurf drama". [1]

"Ni wn a fyddai i rhywrai ei pherfformio ar lwyfan a'i peidio, ond cyhoeddir hi gan gredu y bydd hi'n ddiddorol a diddan i'w darllen".[1]

Yn y Rhagair, noda R. Bryn Williams, ei fod wedi cael ei "berswadio i'w hanfon i gystadleuaeth" gan dderbyn "canmoliaeth", ond ni cheir cyfeiriad at ba gystadleuaeth na pha Eisteddfod. Mae'n nodi hefyd mai "Brawd Llywelyn ein Llyw Olaf oedd y Dafydd hwn: un a ddaliodd ati i ymladd â'r Saeson wedi trychineb Cilmeri, ac na chafodd lawer o sylw gan ein haneswyr".[1]

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Hyd 2026, nid oes sôn am gynyrchiadau o'r ddrama yn y Wasg.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 Williams, R. Bryn (1975). Dafydd Dywysog. Llandybie: Christopher Davies. ISBN 0715401289.