Mewn mecaneg, cyflymiad (Saesneg: Acceleration) yw cyfradd newid cyflymder (velocity) o ran amser. Deilliad o gyflymder neu ail-ddeilliad dadleoliad. Mae cyflymiadau yn feintiau fector (yn yr ystyr bod ganddynt faint a chyfeiriad).

Cyflymiad
Mathmaint corfforol, meintiau deilliadol ISQ, maint fector Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gancyflymder Edit this on Wikidata
Olynwyd ganjerk Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0zl3 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF8645 edit this on wikidata
QuoraAcceleration-physics edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae cyflymiad yn un o sawl elfen o sinemateg, sef astudiaeth symudiad: mae rhan gyntaf y gair sine-mateg yn golygu 'symudiad', fel cine-ma, lle dangosir lluniau symudol.[1][2] Caiff cyfeiriad cyflymiad gwrthrych ei bennu gan gyfeiriad y grym net sy’n gweithredu arno. Caiff cyfeiriad cyflymiad gwrthrych ei bennu gan gyfeiriad y grym net sy’n gweithredu arno. Mae maint cyflymiad gwrthrych, fel y disgrifir gan ail gyfraith Newton, yn ganlyniad i ddau achos:

  1. cydbwysedd net yr holl rymoedd allanol sy’n gweithredu ar y gwrthrych — mae’r maint yn gymesur yn uniongyrchol â’r grym net hwnnw;
  2. mas y gwrthrych, yn dibynnu ar y deunyddiau y mae wedi’u gwneud ohonynt — mae’r maint mewn cyfrannedd gwrthdro (inversely proportional) i fas y gwrthrych.

Yr uned SI (System Ryngwladol o Unedau) ar gyfer cyflymiad yw: un fetr yr eiliad sgwâr (m⋅s−2, ).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bondi, Hermann (1980). Relativity and Common Sense. Courier Dover Publications. tt. 3. ISBN 978-0-486-24021-3.
  2. Lehrman, Robert L. (1998). Physics the Easy Way. Barron's Educational Series. tt. 27. ISBN 978-0-7641-0236-3.
Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau

golygu