Cyfalafiaeth
System ecomonaidd sy'n seiliedig ar unigolion, cwmnïau neu gorfforaethau yn berchen ar eiddo neu gyfalaf (arian neu stoc wrth gefn) yw cyfalafiaeth. Mae perchnogaeth breifat weithiau'n cael ei ddefnyddio i olygu perchnogaeth unigol, er y gellir defnyddio'r term "preifat" i gyfeirio at berchnogaeth ar y cyd ar ffurf perchnogaeth gorfforaethol hefyd. Felly, yn y cyd-destun yma, fe olygai "bod o dan berchnogaeth breifat" rywbeth nad yw o dan berchnogaeth na reolaeth y wladwriaeth ac sy'n cael ei redeg er mwyn gwneud elw.
| Delwedd:Microcosm of London Plate 033 - Corn Exchange.jpg, Anti-capitalism color.jpg | |
| Enghraifft o: | trefniant cymdeithasol, mudiad cymdeithasol |
|---|---|
| Math | economic system |
| Y gwrthwyneb | anti-capitalism, comiwnyddiaeth |
| Yn cynnwys | means of production |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01nc0 |
| Thesawrws y BNCF | 14523 |
| Quora | Capitalism |
Y gwrthwyneb i gyfalafiaeth yw Comiwnyddiaeth, sy'n seiliedig ar feirniadaeth gymdeithasol ac economaidd Karl Marx ar gyfalafiaeth yn ei lyfr Das Kapital.
Egwyddorion
golyguSeilir cyfalafiaeth ar berchnogaeth breifat, yr ysgogiad elw, y farchnad rydd, cystadleuaeth economaidd, a dewis, yn ogystal ag ymyrraeth gyfyngedig gan y llywodraeth. Ystyr egwyddor perchnogaeth breifat yw y dylai'r rhan fwyaf o sefydliadau sy'n gweithredu yn y sectorau cynradd, gweithgynhyrchu a gwasanaethau fod yn eiddo preifat i unigolion sy'n buddsoddi eu cyfalaf. Mae cyfalaf yn arian sydd wedi'i gynilo neu ei fenthyg, a gall fod yn eiddo i unigolion neu sefydliadau. Gall rhai gwasanaethau gael eu darparu gan y llywodraeth, megis y lluoedd arfog, y gwasanaeth post neu gyhoeddi arian cyfred, ond dylai'r rhan fwyaf o wasanaethau gael eu darparu gan y sector preifat.
Yn gysylltiedig â pherchnogaeth breifat mae cymhelliad elw. Mae unigolion yn fodlon buddsoddi eu cyfalaf mewn mentrau busnes oherwydd eu bod yn bwriadu gwneud elw ar eu buddsoddiadau. Po fwyaf yw'r elw y maent yn credu y byddant yn ei wneud, y mwyaf fydd eu parodrwydd i fuddsoddi. Wrth gwrs, gallant hefyd wneud colledion os byddant yn buddsoddi yn y busnes anghywir, a gall hyn orfodi'r unigolion hynny i adael y farchnad.
Y farchnad yw canolbwynt y system economaidd gyfalafol. Mae gweithrediad y farchnad yn pennu cyflenwad, galw a phris nwyddau. Mae pris nwydd yn cael ei bennu gan y galw – faint o bobl sydd am ei brynu – a'r cyflenwad – faint sydd ar gael. Caiff entrepreneuriaid preifat eu hannog i sefydlu busnesau os yw'r galw yn uchel a'r prisiau yn uchel. Ar y llaw arall, os oes gormod o gyflenwad a'r prisiau'n isel, caiff pobl eu gorfodi i adael y farchnad.
Pan fo sawl cyflenwr yn y farchnad, ceir cystadleuaeth ac mae gan y cwsmer ddewis. Mae cystadleuaeth yn arwain at gynhyrchu mwy effeithlon ac at ddatblygu cynhyrchion y mae defnyddwyr yn eu dymuno. O ganlyniad, caiff anghenion defnyddwyr eu diwallu yn y ffyrdd mwyaf effeithlon posibl, ac mae eu safonau byw yn gwella.
Yn olaf, dylai'r llywodraeth gadw allan o'r farchnad gymaint â phosibl. Mae'n angenrheidiol cyflwyno rheoliadau am resymau diogelwch ac i amddiffyn y rhai sy'n cymryd rhan yn y farchnad rhag pobl anonest a allai gynhyrchu nwyddau nad ydynt yn addas at y diben a fwriadwyd neu a allai dwyllo pobl ddiniwed o'u cyfalaf. Serch hynny, cyn belled ag y bo modd, dylai'r llywodraeth ymyrryd cyn lleied â phosibl a gadael i'r farchnad greu ei hamodau economaidd ei hun.
Problemau
golyguMewn theori, cyfalafiaeth yw'r ffordd fwyaf effeithlon o weithredu'r economi. Fodd bynnag, yn ymarferol mae'n rhaid i gyfalafiaeth gael llawer iawn o reoleiddio er mwyn ei rheoli. Dros y blynyddoedd, mae llywodraethau mewn gwledydd cyfalafol wedi gorfod pasio deddfau i amddiffyn defnyddwyr, buddsoddwyr, cyflogwyr a gweithwyr.
Mae'r farchnad yn aml yn cael ei dominyddu ac felly ei rheoli gan sefydliadau mawr sy'n gallu ei thrin er eu budd eu hunain. Ar ddechrau'r 20g, bu'n rhaid i lywodraeth Unol Daleithiau America weithredu er mwyn chwalu sefydliadau pwerus yn y diwydiannau dur, olew a'r rheilffyrdd. Ar ddiwedd yr 20g, bu'n rhaid iddi weithredu i atal pŵer gormodol corfforaeth Microsoft, a bu'n rhaid iddi gymryd camau yn erbyn rheolwyr cwmni Enron a oedd wedi twyllo miloedd o bobl.
Er mai mewn theori y bydd "llaw anweledig" y farchnad yn canfod ei lefel ei hun os caiff ei gadael i weithredu ar ei phen ei hun, yn ymarferol mae'n rhaid i bobl a llywodraethau barhau i fod yn wyliadwrus o'i diffygion a bod yn ymwybodol y gall gael ei thrin er budd y rhai sydd â phŵer.
Llenyddiaeth Gymraeg
golyguCeir nifer o hen benillion sy'n gweld cyfalafiaeth yn rhywbeth gwrthyn:
- Esmwyth tlodi gan y doethion,
- Blin yw cyfoeth i'r ynfydion.
- Mwy o boen sy ar rai yn gwario
- Nag ar eraill yn llafurio.
- Bu gennyf ffrind a cheiniog hefyd,
- Ac i'm ffrind mi rois ei benthyg.
- Pan eis i nôl fy ngheiniog adre,
- Collais i fy ffrind a hithe.