Grŵp ethnig sy'n byw yn bennaf yn nwyrain a de-ddwyrain Twrci ond hefyd mewn rhannau o ogledd Syria, gogledd Irac a gogledd-orllewin Iran yw'r Cwrdiaid (Cwrdeg: کورد, Kurd neu Gelê Kurdî).[1] O ran eu diwylliant a'u hiaith, mae'r Cwrdiaid yn perthyn yn agos iawn i'r Iraniaid[2][3] Galwent y tiriogaethau hyn yn Gwrdistan, enw a arferir yn ogystal am eu tiriogaeth yn nwyrain Twrci.

Cwrdiaid
Merched yn dathlu'r flwyddyn newydd
Enghraifft o:grŵp ethnig Edit this on Wikidata
Mathpobl y Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
MamiaithCwrdeg edit this on wikidata
CrefyddSwnni, shïa, alevism, yazidism, cristnogaeth, iddewiaeth edit this on wikidata
GwladTwrci, Irac, Iran, Syria, Aserbaijan, Armenia Edit this on Wikidata
Rhan opobl o Iran Edit this on Wikidata
Yn cynnwysYazidis, Sorani, Kelhuri, Kurmanji, Zaza people, Kurds of Khorasan, Shabak people, Q120281391 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/04c28 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Maent yn siarad yr iaith Gwrdeg, iaith Indo-Ewropeaidd sydd â sawl tafodiaith. Mae'r Cwrdeg yn isddosbarth o ieithoedd Gogledd Iran.[4]

Y Cwrd Mohammad Bagher Ghalibaf, Maer Tehran

Mae llawer o Gwrdiaid yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion y Mediaid hynafol, ac mae nhw'n defnyddio calendr sy'n dyddio o 612 CC, pan lwyddodd y Mediaid i goncro Ninefeh, prifddinas Asyria.[5] Pobl o Iran oedd y Mediaid.[6]). Caiff y syniad hwn eu bod o dras Mediaidd ei gadarnhau ganddynyt yn eu hanthem genedlaethol: "ni yw plant y Mediaid a'r Kai Khosrow".[7]

Amcangyfrifir fod rhwng 30-32 miliwn o Gwrdiaid drwy'r byd ac o bosib, cymaint â 37 miliwn.

Siaradir tafodiaith Mukriani yn ninasoedd Piranshahr a Mahabad. Piranhahr a Mahabad yw dwy ddinas fawr Mukrian.[8]

Cwrdiaid enwog

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Killing of Iraq Kurds 'genocide', BBC News, 23 Rhagfyr 2005
  2. John A. Shoup (17 Hydref 2011). Ethnic Groups of Africa and the Middle East: An Encyclopedia. ABC-CLIO. t. 159.
  3. "Kurds". The Columbia Encyclopedia, 6th ed. Encyclopedia.com. 2014. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2014.
  4. D. N. MacKenzie (1961). "The Origins of Kurdish". Transactions of the Philological Society: 68–86.
  5. Frye, Richard Nelson. "IRAN v. PEOPLES OF IRAN (1) A General Survey". Encyclopædia Iranica. Cyrchwyd 4 Mawrth 2016.
  6. Barbara A. West (2009). Encyclopedia of the Peoples of Asia and Oceania. Infobase Publishing. t. 518.
  7. Ofra Bengio (15 Tachwedd 2014). Kurdish Awakening: Nation Building in a Fragmented Homeland. University of Texas Press. t. 87.
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mawrth 2017. Cyrchwyd 26 Mawrth 2018.