Christopher Plummer
Actor o Ganada oedd Arthur Christopher Orme Plummer, CC (13 Rhagfyr 1929 – 5 Chwefror 2021). Roedd ei yrfa yn ymestyn dros saith degawd ac yn cynnwys rhannau sylweddol mewn ffilm, theatr a theledu. Efallai fod Plummer yn fwyaf adnabyddus am ei rôl eiconig fel Capten Georg von Trapp yn y ffilm The Sound of Music.
| Christopher Plummer | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | Arthur Christopher Orme Plummer 13 Rhagfyr 1929 Toronto |
| Bu farw | 5 Chwefror 2021 Weston |
| Man preswyl | Weston |
| Dinasyddiaeth | Canada |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor llais, actor cymeriad, actor llwyfan, actor |
| Taldra | 70 modfedd |
| Tad | John Orme Plummer |
| Mam | Isabella Mary Abbott |
| Priod | Elaine Taylor, Tammy Grimes, Patricia Lewis |
| Plant | Amanda Plummer |
| Perthnasau | John Abbott |
| Gwobr/au | Cydymaith o Urdd Canada, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr Gydol Oes am Gampau John Willis, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Tony am Actor Gorau mewn Sioe Gerdd, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Anrhydeddu Aur am Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Honorary doctor of the University of Ottawa, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Golden Globes, Governor General's Performing Arts Award, Gwobr Emmy Primetime am y Prif Actor Rhagorol mewn Cyfres Fer neu Ffilm, Sam Wanamaker Award |
Cafodd Arthur Christopher Orme Plummer ei eni yn Toronto, Ontario,[1] yn fab i John Orme Plummer[2] a'i wraig Isabella Mary (née Abbott), sy'n gweithio fel ysgrifennydd ym Mhrifysgol McGill. Roedd hi'n wyres Syr John Abbott, cyn-Prif Weinidog Canada.[3]
Priododd yr actores Americanaidd Tammy Grimes ym 1956 (ysgarodd 1960). Roedd gan y cwpl un ferch, Amanda Plummer (g. 1957). Priododd ei ail wraig, Patricia Lewis, ym 1962 (ysgarodd 1967).
Priododd yr actores Seisnig Elaine Taylor ym 1970.
Enillodd Plummer y Wobr yr Academi am yr actor cefnogol gorau ym 2011 am ei rôl yn y ffilm Beginners. Gwnaeth hyn ef y person hynaf i ennill Gwobr Academi actio.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Christopher Plummer | Biography, Movies, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Chwefror 2021.
- ↑ Fletcher, Bernie (May 19, 2015). "A famous son, a forgotten father". Beach Metro Community News.
- ↑ "A Man for All Stages: The Life and Times of Christopher Plummer". Life and Times. 12 Tachwedd 2002. https://www.youtube.com/watch?v=sILs0PQRoc4.
