Anna Nicholl
Mae Anna Nicholl (ganed 9 Gorffennaf 1975) yn wleidydd Plaid Cymru sy'n gwasanaethu fel aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Ceredigion Penfro, etholwyd hi yn Etholiad Senedd Cymru 2026.[1][2]
| Anna Nicholl | |
|---|---|
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 7ed Senedd Cymru |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Bywgraffiad
golyguMagwyd Nicholl yn Aberteifi, Ceredigion.[3] Astudiodd Hanes yng Ngholeg Emmanuel yng Nghaergrawnt, cyn astudio ar gyfer gradd MSc mewn Astudiaethau Datblygu yn Ysgol Economeg Llundain. Ym 1999, symudodd i Gaerdydd i wneud ei swydd barhaol gyntaf, gan ymuno â thîm ymchwil cyntaf Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd ar y pryd.[4]
Gyrfa
golyguRhwng Awst 2008 a Mai 2011 roedd hi'n gynghorydd arbennig i weinidogion Plaid Cymru yng nghlymblaid Cymru'n Un gyda Llafur Cymru.[5][6]
O 2016 ymlaen, Nicholl oedd cyfarwyddwr strategaeth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.[7][8]
Gyrfa gwleidyddol
golyguRoedd yn aelod o dîm ymchwil cyntaf Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru ym 1999, dan arweiniad Cynog Dafis AC a Lila Haines. Yn ddiweddarach, gweithiodd fel cynghorydd arbennig i Aelodau Cabinet Plaid Cymru o Lywodraeth Cymru’n Un rhwng 2008 a 2011. Ers hynny, rwyf wedi gweithio i Llŷr Gryffudd AS fel cynghorwr polisi ym maes cymunedau cynaliadwy, ac yn ddiweddarach i Siân Gwenllian AS, yn rhinwedd ei rôl fel llefarydd tai.[4]
Yn etholiad Senedd 2026, safodd fel y drydedd ymgeisydd yn etholaeth Ceredigion Penfro gan gael ei hethol tu ôl Elin Jones a Kerry Ferguson.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ceredigion Penfro". BBC Cymru Fyw. 8 Mai 2026.
- ↑ Slow, Oliver; Hale, Adam (8 Mai 2026). "Wales election 2026: Plaid Cymru and Reform UK dominate early results in Wales, as Labour admits defeat". BBC News.
- ↑ "Ceredigion Penfro candidates - Senedd 2026". Ceredigion Penfro - Plaid Cymru. 10 June 2025. Cyrchwyd 2026-01-29.
- 1 2 "Anna Nicholl". Gwefan Senedd Cymru. Cyrchwyd 4 Medi 2026.
- ↑ WalesOnline (2008-08-02). "New face joins special advisers". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mai 2026.
- ↑ "Written Statement - Special Advisers (1 August 2012) | GOV.WALES". www.gov.wales (yn Saesneg). 1 Awst 2012. Cyrchwyd 2026-05-08.
- ↑ "Devolution as a policy laboratory". Institute for Government (yn Saesneg). 2016-02-02. Cyrchwyd 13 Mai 2026.
- ↑ "Welsh charities' income half of English counterparts". BBC News (yn Saesneg). 25 Awst 2018. Cyrchwyd 13 Mai 2026.
- ↑ "Ceredigion Penfro - Welsh Parliament constituency". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Mai 2026.
Dolenni allanol
golygu- Anna Nicoll AS Tudalen ar wefan swyddogol Senedd Cymru
- @PlaidCeredigionPenfro Tudalen Facebook Plaid Cymru Ceredigion Penfro
- @anna.plaidcymru/ cyfrif instagram Ann Nicholl