Anna Brychan

gwleidydd ac academydd

Gwleidydd ac academydd yw Anna Brychan. Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Caerdydd Penarth ers Mai 2026. Hi yw Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yng Nghabinet Llywodraeth Plaid Cymru ers 13 Mai 2026.[1]

Anna Brychan
AS
Llun swyddogol, 2026
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Mai 2026
Aelod o Senedd Cymru
dros Caerdydd Penarth
Deiliad
Cychwyn y swydd
8 Mai 2026
Manylion personol
GanwydAberystwyth, Cymru
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
PerthnasauJohn Davies (tad)

Gyrfa broffesiynol

golygu

Mae ganddi brofiad o weithio gydag undebau llafur. Roedd hi'n gyfarwyddwr ar gangen Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon yng Nghymru o 2004 i 2014.[2]

Mae'n Ddeon Cynorthwyol yn yr Athrofa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.[3]

Bywyd personol

golygu

Daw'n wreiddiol o Aberystwyth, ble mynychodd Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. Mae hi'n ferch i'r hanesydd John Davies, ac mae ganddi 3 mab.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi cabinet newydd Llywodraeth Cymru". BBC Cymru Fyw. 13 Mai 2026. Cyrchwyd 13 Mai 2026.
  2. "Anna Brychan new director for Wales". Nursery World (yn Saesneg). 7 Ionawr 2004. Cyrchwyd 13 Ionawr 2026.
  3. "PCYDDS yn gwesteio Gweithdy Ymchwil ac Ysgrifennu Blynyddol yr MA Addysg (Cymru)". Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 4 Awst 2025. Cyrchwyd 13 Mai 2026.
  4. Mansfield, Mark (2025-06-07). "Two ex-Plaid Cymru chief executives 'heading for Senedd'". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-05-13.