Afon Lek
Afon yn yr Iseldiroedd yw Afon Lek. Mae'n un o ganghennau Afon Rhein.
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Grote rivieren |
| Sir | Zuid-Holland, Gelderland, Utrecht |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.8903°N 4.6316°E |
| Aber | Nieuwe Maas |
| Llednentydd | Nederrijn |
| Hyd | 62 cilometr |
Dechreua afon Lek ger Wijk bij Duurstede, lle mae'r Nederrijn yn newid ei henw i'r Lek. Ger Kinderdijk mae'n ymuno ag Afon Noord i ffurfio afon Nieuwe Maas. Mae hyd y Lek yn 62 km.
Yn wreiddiol, un o hen sianeli'r Rhein oedd y Lek. Daeth yn afon gyda llif sylweddol o ddŵr ynddi yn y cyfnod Rhufeinig. Nid oes dinasoedd mawr ar y Lek, ond mae nifer o ddinasoedd bychain hanesyddol megis Wijk bij Duurstede, Culemborg, Vianen, Ameide, Nieuwpoort a Schoonhoven.