Trefn ar gyfer y botymau ar fysellfwrdd cyfrifiadur neu deipiadur yw AZERTY. Fe'i defnyddir yn bennaf yn Ffrainc a Gwlad Belg. Mae'n debyg iawn i gynllun bysellfwrdd QWERTY, ond mae'n cyfnewid y llythyren Q ac A, yn ogystal â W a Z. Mae'r llythyren M yn cael ei symud o'r dde i'r N i safle'r hanner colon ar fysellfyrddau QWERTY.

AZERTY
Mathcynllun bysellfwrdd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01xfxj edit this on wikidata
QuoraAzerty-3 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gan fysellfwrdd AZERTY fwy o nodau na bysellfwrdd QWERTY. I deipio'r nodau hyn, rhaid defnyddio'r fysell Alt Gr neu fysell farw. Gellir ychwanegu acenion (megis acen ddyrchafedig, acen ddisgynedig, acen grom, didolnod) at lythyren trwy deipio bysell farw'r acen ac yna teipio'r llythyren. Er enghraifft, bydd teipio'r fysell ^ (i'r dde o'r fysell P) ac yna teipio'r fysell A yn creu'r llythyren â.

Ymddangosodd y cynllun AZERTY yn Ffrainc yn ystod degawd olaf y 19g fel amrywiad ar deipiaduron QWERTY o'r Unol Daleithiau. Dyma yw'r peth arferol o hyd yn Ffrainc, er bod yr amrywiadau niferus sydd ar gael gan wahanol wneuthurwyr wedi achosi rhwystredigaeth.[1] Mae Gweinyddiaeth Diwylliant Ffrainc wedi cynnig safon newydd sydd â'r bwriad o ddod â threfn i'r sefyllfa hon.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Steve Dent, "France wants to fix the terrible AZERTY keyboard", Endgadget, 22 Ionawr 2016; adalwyd 1 Awst 2025
  2. "La science derrière la nouvelle norme de clavier français", Le nouvel Azerty; adalwyd 1 Awst 2025